
Sesiwn Dilynol ar y Cynnig Rhagweithiol
Mai 22 @ 11:30 am - 12:30 pm

Amcanion y cwrs:
Sesiwn ddilynol am ddim i fudiadau trydydd sector gael dealltwriaeth bellach o’r Cynnig Rhagweithiol a’r adnoddau sydd ar gael. Cyfle i fudiadau hefyd rannu syniadau a phrofiadau. Canlyniadau’r cwrs:
Bydd y cwrs yma’n sicrhau bod gennych y wybodaeth, yr agweddau a’r adnoddau sy’n ddefnyddiol i’ch cefnogi i gynnig eich gwasanaethau’n ddwyieithog. Erbyn diwedd y cwrs yma byddwch â:
– Mynediad at adnoddau Cymraeg Cynnig Rhagweithiol PAVO.
– Dealltwriaeth pellach o’r angen i ddarparu gwasanaethau dwyieithog.
– Dealltwriaeth o’r rheswm tu ôl i’r Cynnig Rhagweithiol a’r ochr emosiynol sydd i iaith.
– Dealltwriaeth wedi edrych a thrafod enghreifftiau/profiadau bywyd go iawn o’r Cynnig Rhagweithiol
– Syniadau ar sut y gallai eich sefydliad ddarparu’r Cynnig Rhagweithiol
– Phrofiad o rannu eich profiadau gyda’r Cynnig Rhagweithiol a rhannu syniadau gyda’r gilydd.
Book here: COURSE BOOKING FORM