
Gobeithio y gallwch chi fod yn bresennol, fel y gallwch chi gymryd rhan yn y rhan bwysig hon o'n llywodraethu a'n hatebolrwydd i'r sector gwirfoddol ym Mhowys. Archebwch i ymuno a ni, pleidleisio, neu anfon ymddiheuriadau drwy glicio yma i lenwi'r ffurflen ar-lein.
Hoffem ofyn i chi, fel aelod-sefydliad, sicrhau eich bod yn defnyddio'ch pleidlais drwy'r ffurflen uchod. Cyhoeddir canlyniadau'r bleidlais yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Mawr obeithiwn y byddwch yn ymuno â ni ond, pe na bai hyn yn bosibl, byddai PAVO yn ddiolchgar iawn pe byddech yn dal i arfer eich hawl i bleidleisio.
cysylltwch ag Angela Owen, PAVO, Plas Dolerw, Y Drenewydd, SY16 2EH 01686 626220 angela.owen@pavo.org.uk.
