Gweminar Canfyddiadau Cyllid ac Incwm Baromedr Cymru
Beth mae Baromedr Cymru yn ei ddweud wrthym am y pwysau, yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu mudiadau gwirfoddol yng Nghymru o ran cyllid ac incwm?
Ymunwch â ni am weminar a fydd yn edrych ar beth mae Baromedr Cymru yn ei ddweud wrthym am brofiadau mudiadau gwirfoddol ledled Cymru o ran cyllid ac incwm.
Mae Baromedr Cymru yn arolwg chwarterol dwyieithog a ddatblygwyd gan Arsyllfa VCSE a CGGC, sy’n cyflwyno tystiolaeth gadarn, hirdymor am brofiadau, blaenoriaethau a rhagolygon mudiadau gwirfoddol ledled Cymru.
Mae cyllid ac incwm yn dylanwadu ar allu mudiadau gwirfoddol i gefnogi pobl a chymunedau ledled Cymru. Bydd y weminar hon yn edrych yn fanylach ar brofiadau mudiadau, gan ddefnyddio tystiolaeth o Faromedr Cymru i ystyried y cyfleoedd, yr heriau a’r pwysau ariannol sy’n wynebu’r sector.
Yn ystod y weminar hon, byddwn yn:
-
Cyflwyno’r canfyddiadau allweddol o Faromedr Cymru ynghylch cyllid ac incwm mudiadau gwirfoddol ledled Cymru.
-
Edrych ar y pwysau a’r blaenoriaethau sy’n wynebu mudiadau, gan gynnwys heriau cyllido, ffynonellau incwm, capasiti mudiadau a chynaliadwyedd ariannol.
-
Ystyried yr hyn y mae’r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym am brofiadau a rhagolygon mudiadau gwirfoddol wrth iddynt ymdopi â’r amgylchedd cyllido.
-
Edrych ar dueddiadau a themâu sy’n dod i’r amlwg a’r hyn y mae’r canfyddiadau’n ei awgrymu am newidiadau yn y ffordd y caiff mudiadau eu hariannu ac y maent yn cynnal eu gwaith.
-
Trafod y goblygiadau i fudiadau gwirfoddol, cyllidwyr, llunwyr polisi a’r rheini sy’n gweithio ar draws y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus.
-
Ateb eich cwestiynau yn ystod sesiwn holi ac ateb fyw gyda’r tîm ymchwil.
P’un a ydych yn gweithio yn y sector gwirfoddol, ym maes cyllido, iechyd a gofal cymdeithasol, y llywodraeth, y byd academaidd, neu os oes gennych ddiddordeb mewn tystiolaeth am y sector yng Nghymru, mae’r weminar hon yn gyfle i glywed y mewnwelediadau diweddaraf gan Faromedr Cymru a chymryd rhan yn y drafodaeth.
Dyddiad: Dydd Iau, 26 Tachwedd 2026
Amser: 1:00–2:00 pm
Cofrestrwch yma: https://luma.com/eu8royge Bydd manylion ymuno yn cael eu rhannu ar ôl cofrestru. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ofynion hygyrchedd, cysylltwch ag akaur@wcva.cymru.
