Gwasanaeth fflecsi newydd i gysylltu Rhaeadr Gwy a’r cymunedau cyfagos

Mae Cyngor Sir Powys wedi gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru (TrC) i gyflwyno gwasanaeth fflecsi sy’n ymateb i’r galw i Rhaeadr Gwy o 2 Tachwedd ymlaen. Bydd y gwasanaeth newydd yn disodli’r Bwcabus B57 a’r B58 a bydd yn rhoi’r cyfle i gymunedau yn Rhaeadr Gwy a’r ardaloedd cyfagos deithio ymhellach.
Wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion lleol, bydd y gwasanaeth yn rhoi ffordd hyblyg a dibynadwy i drigolion ac ymwelwyr ar draws Rhaeadr Gwy, Llanidloes, Y Groes, Llanfair-ym-Muallt, Llandrindod a Chwm Elan i symud o gwmpas ardaloedd gwledig heb ddibynnu ar gar.
Bydd y gwasanaeth y gellir ei archebu yn cysylltu pobl â gwasanaethau lleol, atyniadau, cyflogaeth, addysg a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i deithio ymlaen i lefydd eraill gan gynnwys yr X75 i Aberystwyth, y T4 i Ferthyr Tudful, a Llinell Calon Cymru.
Wedi’i weithredu gan Simon Price Cars, mae’r gwasanaeth yn cynnig dewis arall cyfleus i wasanaethau bysiau ar hyd llwybrau penodol traddodiadol mewn ardaloedd gwledig.
Yn wahanol i lwybrau bws confensiynol, mae’r gwasanaeth fflecsi yn caniatáu i deithwyr archebu teithiau trwy’r app neu dros y ffôn. Mae’r gwasanaeth yn codi teithwyr o leoliad diogel gerllaw ac yn mynd â nhw i gyrchfannau o fewn y parth gweithredu.
Cyn y lansiad, bydd cynrychiolwyr yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned ar draws yr ardal newydd. Anogir trigolion i ddod draw i un o’r sesiynau isod i ddysgu mwy am y gwasanaeth ac i gael help gydag archebu:
  • Y Groe, Llanfair-ym-Muallt, 9:45-11:30am ddydd Iau, 29 Hydref
  • Pontnewydd ar Wy, ger y Golden Lion a Swyddfa Bost y Pentref, 1-2:45pm ddydd Iau 29 Hydref
  • Canolfan Hamdden Rhaeadr Gwy, 10am-2:30pm ddydd Gwener 30 Hydref
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Wyrddach yng Nghyngor Sir Powys: “Mae trafnidiaeth gyhoeddus leol dda yn hanfodol i gefnogi cymunedau gwledig bywiog a chynaliadwy.
Mae cyflwyno fflecsi yn ardal Rhaeadr Gwy yn darparu opsiwn teithio newydd cyffrous a fydd yn ategu’r rhwydwaith trafnidiaeth ehangach wrth helpu pobl i wneud teithiau mwy cynaliadwy.
Rydym yn falch o weld y buddsoddiad hwn ym Mhowys wledig ac edrychwn ymlaen at y manteision y bydd yn eu cynnig i gymunedau lleol ac ymwelwyr â’r ardal.”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Mark Hooper: “Mae trafnidiaeth gyhoeddus dda yn chwarae rhan hanfodol wrth gysylltu cymunedau gwledig, gan helpu pobl i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth, addysg, gofal iechyd a hamdden.
Rydym wedi ymrwymo i wella opsiynau teithio cynaliadwy ledled Cymru, a bydd y gwasanaeth fflecsi newydd hwn yn darparu mwy o hyblygrwydd i drigolion ac ymwelwyr sy’n teithio ledled ardal Rhaeadr Gwy.
Mae gwasanaethau fel fflecsi yn helpu i fynd i’r afael ag ynysu, gwella mynediad at wasanaethau hanfodol a chynnig dewis arall ymarferol i ddefnyddio ceir preifat.”
Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth ac Integreiddio Rhanbarthol Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn falch o fod yn cyflwyno gwasanaeth fflecsi i Rhaeadr Gwy a’r cymunedau cyfagos, gan ddarparu ffordd fwy hyblyg a chyfleus i bobl leol deithio.
Bydd y gwasanaeth newydd yn helpu i gysylltu pobl â gwaith, addysg, gofal iechyd a gwasanaethau hanfodol eraill, tra hefyd yn gwella mynediad i’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ehangach.
Mae’r gwasanaeth fflecsi eisoes wedi profi’n llwyddiannus mewn cymunedau ledled Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid lleol i ddarparu gwasanaeth sy’n diwallu anghenion trigolion ac yn helpu i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn mwy atyniadol ar gyfer teithiau bob dydd.”
Gellir archebu teithiau drwy’r ap fflecsi, neu drwy ffonio Trafnidiaeth Cymru ar 0300 234 0300. Am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho’r ap, ewch i fflecsi.wales