Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog pobl ledled Cymru i fod yn ‘Barod am Lifogydd’ ar ôl blwyddyn o dywydd eithafol
Yn dilyn haf o sychder a thanau gwyllt, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl ledled Cymru i beidio â bod yn hunanfodlon ynghylch perygl llifogydd yr hydref a’r gaeaf hwn.
Profodd cymunedau ledled Cymru lifogydd a stormydd dinistriol y gaeaf diwethaf, cyn i amodau sych hirfaith, sychder a thanau gwyllt sylweddol effeithio ar sawl rhan o’r wlad yn ystod yr haf. Wrth i newid hinsawdd barhau i ddod â thywydd eithafol amlach a dwysach, mae CNC yn atgoffa pobl y gall perygl llifogydd ddychwelyd yn gyflym wrth i dywydd yr hydref a’r gaeaf gyrraedd.
Drwy ei ymgyrch flynyddol Barod am Lifogydd mae CNC yn annog pobl i ddeall eu perygl llifogydd, cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd am ddim a chymryd camau syml, ymarferol nawr i baratoi, cyn i dywydd garw gyrraedd.
Gyda 1 o bob 7 cartref a busnes yng Nghymru mewn perygl o lifogydd, mae CNC yn dweud y gall gwybod beth i’w wneud cyn i lifogydd ddigwydd wneud gwahaniaeth sylweddol i leihau’r effeithiau ar bobl, cartrefi a busnesau.
Cyn i dymor stormydd yr hydref a’r gaeaf gyrraedd, dylai pawb:
- wirio beth yw eich perygl llifogydd yn ôl cod post ar-lein
- cofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd
- gwybod beth i’w wneud os rhagwelir llifogydd
Gall bod yn barod a chymryd camau yn gynnar pan gyhoeddir rhybuddion leihau effaith llifogydd ar bobl, cartrefi a busnesau yn sylweddol.
Dywedodd Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau, Cyfoeth Naturiol Cymru: “Nid yw tywydd eithafol yn ddieithr i Gymru, a bydd llawer o gymunedau yn dal i deimlo effeithiau llifogydd a stormydd a brofwyd y gaeaf diwethaf, yn ogystal â sychder a thanau gwyllt yr haf hwn.
“Ar ôl haf sych, efallai nad yw peryg llifogydd yn fyw yng nghof pobl, ond gall y newid yn y tymhorau ddod ag amodau tywydd gwahanol iawn yn gyflym iawn. Dim ond oherwydd nad ydych erioed wedi profi llifogydd o’r blaen nid yw hynny’n golygu nad ydych chi mewn perygl.
“Dro ar ôl tro, mae llawer o bobl sy’n profi llifogydd dinistriol yn eu cartrefi yn dweud wrthym nad oeddent erioed wedi cael llifogydd o’r blaen, ac nad oeddent yn meddwl y byddai’n digwydd iddyn nhw. Gall deall eich perygl llifogydd nawr a chofrestru ar gyfer ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim eich helpu i baratoi yn well pan ddaw tywydd garw.”
Mae paratoi ar gyfer llifogydd yn dechrau trwy wybod eich risg, ond mae adeiladu gwydnwch yn gofyn am gymryd camau ar bob lefel – gan lywodraethau, gan sefydliadau fel CNC, Awdurdodau Lleol a chwmnïau dŵr, ond hefyd gan y rhai sydd mewn perygl o lifogydd.
Mae CNC yn parhau i fuddsoddi mewn cynlluniau rheoli perygl llifogydd a gynlluniwyd i leihau perygl llifogydd i gymunedau lle mae atebion peirianneg yn ymarferol ac yn gallu darparu buddion hirdymor.
Fodd bynnag, er bod amddiffynfeydd rhag llifogydd a systemau rhybuddio yn parhau yn rhan bwysig o becyn cymorth gwydnwch llifogydd Cymru, dim ond rhan o’r ateb ydynt.
Daw’r ymgyrch wrth i ragolygon hirdymor y Swyddfa Dywydd ar gyfer yr hydref ddangos tebygolrwydd cynyddol o amodau gwlypach, mwy gwyntog a mwynach na’r arfer.
Fodd bynnag, er bod amddiffynfeydd rhag llifogydd a systemau rhybuddio yn parhau yn rhan bwysig o becyn cymorth gwydnwch llifogydd Cymru, dim ond rhan o’r ateb ydynt.
Nid yw’n bosibl adeiladu amddiffynfeydd rhag llifogydd ym mhobman, ac mae newid hinsawdd yn golygu y bydd angen i gymunedau ledled Cymru ddeall eu perygl fwyfwy a bod yn barod i ymateb pan ragwelir llifogydd. Gall amddiffynfeydd rhag llifogydd helpu i leihau perygl llifogydd, ond ni ellir cael gwared ar y perygl hwnnw’n llwyr. Mae gwydnwch yn dechrau gyda phobl a chymunedau yn deall eu perygl ac yn gwybod pa gamau i’w cymryd pan gyhoeddir rhybuddion.
Mae cynlluniau llifogydd cymunedol yn dod yn ffordd gynyddol bwysig o helpu cymunedau i baratoi ar gyfer tywydd garw. Wedi’u datblygu gan drigolion lleol a gwirfoddolwyr, mae’r cynlluniau hyn yn helpu i nodi perygl llifogydd lleol, cefnogi cymdogion bregus, amlinellu camau ymarferol i’w cymryd cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd, a galluogi cymunedau i ymateb yn gyflym pan gyhoeddir rhybuddion.
Mae camau ymarferol y gall pobl eu cymryd i fod yn ymwybodol o’u perygl llifogydd a pharatoi ar gyfer llifogydd. Gall pobl wirio eu perygl llifogydd ar wefan CNC drwy ein gwiriwr cod post syml, cofrestru ar gyfer y gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim, a dod o hyd i wybodaeth bwysig ar sut i baratoi cynllun llifogydd a dysgu beth i’w wneud mewn llifogydd.
Am ragor o wybodaeth ewch i dudalennau llifogydd CNC cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd.
