Penodi Cadeirydd newydd ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys wedi penodi Rhiannon Beaumont-Wood, Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, fel ei Gadeirydd newydd.
Cafodd ei phenodiad ei gymeradwyo’n ffurfiol mewn cyfarfod o’r bwrdd ar 23 Medi.
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys yn dwyn ynghyd gynrychiolwyr o Gyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, y trydydd sector, partneriaid tai, darparwyr gofal, dinasyddion a gofalwyr di-dâl i wella gwasanaethau iechyd a lles ledled y sir drwy gydweithio.
Fel y Cadeirydd, bydd Rhiannon Beaumont-Wood yn gweithio ochr yn ochr â’r Cyd-Is-gadeiryddion sef y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Ofalgar, a Gary Mitchell, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO).
Dywedodd Rhiannon Beaumont-Wood: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’r Cynghorydd Pete Roberts, Gary Mitchell a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ehangach wrth i ni barhau i fwrw ymlaen â’r agenda partneriaeth a phenderfyniadau y dyfodol, gyda ffocws clir ar wella canlyniadau a phrofiadau i bobl Powys.
“Mae cryfder y bwrdd yn gorwedd yng ngwybodaeth, ymrwymiad a phrofiad ei aelodau. Trwy barhau i adeiladu ar ein diwylliant partneriaeth gref, gallwn weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r heriau sydd o’n blaenau a sicrhau bod gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles ledled Powys yn diwallu anghenion ein cymunedau.
“Hoffwn hefyd ddiolch i Carl Cooper am yr arweinyddiaeth, y sefydlogrwydd a’r gefnogaeth y mae wedi’i ddarparu i’r bwrdd dros y pedair blynedd diwethaf. Mae wedi helpu i sefydlu sylfeini cadarn ar gyfer gweithio mewn partneriaeth ac edrychaf ymlaen at adeiladu ar y gwaith hwnnw wrth i ni barhau i gydweithio er budd trigolion Powys.”
Bydd y trefniant o arweinyddiaeth dairochrog y bwrdd, sy’n cynnwys y Cynghorydd Pete Roberts, Gary Mitchell a Rhiannon Beaumont-Wood, yn cefnogi arweinyddiaeth gyson wrth i sefydliadau partner barhau i weithio gyda’i gilydd.
