Trafnidiaeth Gymunedol ym Mhowys: Gwasanaethau, effaith ac anghenion y dyfodol

Sut mae Trafnidiaeth Gymunedol yn cefnogi cymunedau ledled Powys, a beth sydd ei angen i gynnal y gwasanaethau hanfodol hyn i’r dyfodol?

Mae Adroddiad Trafnidiaeth Gymunedol PAVO ar gyfer 2024–25 yn rhoi trosolwg o’r gwasanaethau ledled Powys, gan amlygu pwy sy’n cael eu cefnogi, gallu’r gwasanaethau i ddiwallu’r galw, yr heriau sy’n eu hwynebu a’r effaith gadarnhaol y maent yn ei gael.

Nod yr adroddiad yw llywio penderfyniadau ynghylch cyllid, comisiynu a chynllunio strategol yn y dyfodol, gan helpu i sicrhau bod Trafnidiaeth Gymunedol yn parhau i ddiwallu anghenion lleol.

Mae hefyd yn archwilio sut mae Trafnidiaeth Gymunedol yn cyd-fynd â gwasanaethau trafnidiaeth ehangach a mentrau cymunedol, gan nodi cyfleoedd i wella cydweithio, osgoi dyblygu gwaith a chefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cynaliadwy ledled Powys.

Drwy ddod â thystiolaeth, safbwyntiau cymunedol a gwybodaeth am y ddarpariaeth bresennol ynghyd, mae’r adroddiad yn darparu sylfaen werthfawr ar gyfer cynllunio dyfodol Trafnidiaeth Gymunedol ym Mhowys.

Darllenwch yr adroddiad llawn yma (ar gael yn Saesneg yn unig): PAVO Community Transport REPORT Sept 2026Final