Ydych chi’n Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr?

13 Hydref 2026
Ar-lein
10 am – 11.15 am

Bydd y weminar am ddim hon yn cyflwyno safon ansawdd y DU am arferion da wrth reoli gwirfoddolwyr ac yn edrych ar sut gall hon gefnogi taith wirfoddoli eich mudiad.

Mae llawer o fudiadau gwirfoddol eisoes yn gwneud gwaith gwerthfawr i gynnwys, cefnogi a dathlu gwirfoddolwyr. Mae Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn rhoi fframwaith ymarferol i’ch helpu chi i fyfyrio ar yr hyn sy’n gweithio’n dda, canolbwyntio eich gweithgareddau a nodi ffyrdd o gryfhau profiad gwirfoddolwyr ar draws eich mudiad. Bydd y weminar am ddim hon yn cyflwyno safon ansawdd y DU am arferion da wrth reoli gwirfoddolwyr ac yn edrych ar sut gall hon gefnogi taith wirfoddoli eich mudiad.

Wedi’i gyflwyno gan Sandra Adair, Rheolwr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr y DU, bydd y sesiwn hon yn eich helpu chi i:

  • Ddeall beth mae’r safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn chwilio amdano wrth asesu a yw gwirfoddolwyr yn cael eu cynnwys yn dda
  • Edrych ar sut gall y broses helpu i wella ymdrechion i recriwtio, cefnogi a chadw gwirfoddolwyr
  • Clywed am y buddion y gall mudiadau eu cael o weithio tuag at y dyfarniad
  • Ystyried a yw Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn iawn i’ch mudiad ar hyn o bryd
  • Nodi camau nesaf ymarferol i daith wirfoddoli eich mudiad
  • Nid oes angen i chi fod yn barod i roi cynnig ar y dyfarniad i ddod. Mae’r sesiwn hon hefyd yn ddefnyddiol os ydych chi eisiau myfyrio ar sut mae eich mudiad yn cynnwys ac yn cefnogi gwirfoddolwyr.
  • Ymunwch â ni i ganfod sut gall Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr helpu eich mudiad i greu ymagwedd gryfach, fwy hyderus a chynaliadwy at wirfoddoli.
Cael gwybod mwy a chadw lle