Helpwch ni i ddysgu mwy am yr ystod o gyfleoedd cynhwysol ledled Cymru.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn ymchwilio sut y gellir gwneud cyfleoedd gwirfoddoli yn fwy gynhwysol a hygyrch i bobl anabl.
Rydym am glywed gan bobl anabl ledled Cymru am eich barn ar wirfoddoli.
Gallai hyn fod yn wirfoddoli mewn chwaraeon, gweithgarwch corfforol, neu unrhyw fath o wirfoddoli yn eich cymuned.
Ydych chi:
  • Yn gwirfoddoli ar hyn o bryd neu wedi gwirfoddoli yn y gorffennol;
  • Wedi wynebu rhwystrau rhag gwirfoddoli;
  • Ddim yn gwirfoddoli ond efallai yr hoffech wneud hynny;
  • Eisiau rhannu eich barn a’ch profiadau.
Nod yr arolwg yw nodi rhwystrau ac arferion da er mwyn cefnogi sefydliadau i greu cyfleoedd gwirfoddoli mwy cynhwysol.
Byddwch yn ein helpu i nodi beth sy’n gweithio’n dda, beth y gellid ei wella, a sut y gall sefydliadau wneud gwirfoddoli yn fwy hygyrch i bawb.
Bydd eich safbwyntiau yn llywio canfyddiadau’r prosiect yn uniongyrchol ac yn helpu i lunio cyfleoedd gwirfoddoli mwy cynhwysol ledled Cymru.
Mae arolwg byr ar gael i’w gwblhau yma:
Ni ddylai’r arolwg gymryd mwy na 5 munud i’w gwblhau.
Mae rhagor o wybodaeth am gymryd rhan yn yr arolwg ar gael yma: Arolwg Gwirfoddoli
Os byddai’n well gennych siarad yn uniongyrchol â rhywun am eich barn ar wirfoddoli, cysylltwch ag Emma Cullingford (Arweinydd Gwirfoddoli Cynhwysol) drwy e-bost ar emma@mwsp.cymru.
Gall pob gwirfoddolwr yng Nghymru bellach gael mynediad at gynnwys e-ddysgu Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd y DU (Lefel 1) yn rhad ac am ddim. Cewch ragor o wybodaeth yma: UK DIT (Lefel 1)