Cronfa Gymunedol Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian 2026
Dyddiad cau 9 September 2026 1pm
Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn agor Cronfa Gymunedol y Cambrian.
Mae’n rhaglen grantiau bach sy’n cynnig gwobrau rhwng £200 a £1,000 i grwpiau lleol o fewn chwe milltir i orsaf reilffordd y Cambrian. Bydd yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer prosiectau sy’n gwella mannau sy’n cael eu defnyddio gan y gymuned, yn hybu llesiant, yn cryfhau ymdeimlad o berthyn ac yn cyfrannu at ddatblygiad o fewn y gymuned.
CYMHWYSEDD
Rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais am y grant fodloni’r canlynol:
● Rhaid bod yn sefydliad cymunedol, elusen, CIC neu’n grŵp sydd â chyfrif banc yn enw’r sefydliad sy’n gwneud y cais, gyda dau lofnodwr annibynnol
● Wedi’u lleoli o fewn 6 milltir (10 km) i orsaf ar Reilffordd y Cambrian. Nid oes angen i’r gweithgareddau gael eu cynnal yn yr orsaf ei hun.
● Yn cael eu harwain gan gymunedau lleol neu’n dangos budd clir i gymunedau lleol.
● Bod yn hygyrch ac yn gynhwysol i’r buddiolwyr targed.
● Darparu budd clir a mesuradwy i’r gymuned leol neu i lesiant y gymuned.
● Bod yn realistig, gyda llinell amser a chyllideb glir.
● Sicrhau unrhyw ganiatâd gan dirfeddiannwr neu gytundebau partneriaeth sydd eu hangen cyn i’r gwaith ddechrau.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma: https://www.pavo.org.uk/help-for-organisations/funding/pavo-grant-schemes/cambrian-rail-partnership-cambrian-community-fund-2026/
