Rheolwr Datblygu’r Sir -Y Trallwng, Sir Drefaldwyn
Ydych chi’n unigolyn creadigol, brwdfrydig ac arloesol sy’n gallu ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc? A oes gennych sgiliau trefnu, cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, ynghyd â gallu profedig i weithio’n effeithiol fel aelod o dîm ac i gyflawni a hyrwyddo prosiectau llwyddiannus?
Os felly, gallai rôl Swyddog Gweithredol y Sir Mudiad Ffermwyr Ifanc Sir Drefaldwyn fod yn addas i chi.
Mae Mudiad Ffermwyr Ifanc Sir Drefaldwyn yn chwilio am unigolyn deinamig, uchelgeisiol, gweledigaethol a dwyieithog i ddatblygu’r mudiad llwyddiannus ledled Sir Drefaldwyn. Bydd y rôl yn cynnwys hyrwyddo a chefnogi datblygiad personol, cymdeithasol a sgiliau aelodau’r Mudiad rhwng 10 a 28 oed drwy drefnu cystadlaethau, hyfforddiant a digwyddiadau cymdeithasol a gynhelir drwy gydol y flwyddyn.
I weld y Disgrifiad Swydd ac i lawrlwytho’r Ffurflen Gais, dilynwch y ddolen isod:
https://drive.google.com/drive/folders/1D0cx4z3_att795hZGy6ehDD8nslbgdQ1?usp=drive_link
Os oes angen rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at office@yfc-montgomery.org.uk, a byddwn yn falch o’ch helpu.
Closing date 12pm 10 August 2026
