Cymorth seibergadernid i’r trydydd sector yng Nghymru

Rydym wedi clywed bod llawer o sefydliadau ledled y sector yn pryderu am seibergadernid. I helpu, rydym wedi llunio rhestr o adnoddau defnyddiol a ffynonellau cymorth.

Canolfan Seiber Gydnerth Cymru (WCRC)  

Mae Canolfan Seiber Gydnerth Cymru (WCRC)  yn adnodd allweddol ar gyfer seibergadernid i elusennau a sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru. Mae’n fenter ddi-elw a arweinir gan yr heddlu, sy’n cynnig aelodaeth graidd am ddim, canllawiau ymarferol a gwasanaethau fforddiadwy i helpu sefydliadau i wella eu seiberddiogelwch.

Mae’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys:

  • Aelodaeth am ddim sy’n rhoi mynediad at rybuddion am dwyll seiber a chanllawiau’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC).
  • Asesiadau bregusrwydd a gwasanaethau hacio moesegol am bris fforddiadwy.
  • Hyfforddiant a chymorth i godi ymwybyddiaeth staff drwy raglen Cyber PATH, lle mae myfyrwyr seiberddiogelwch prifysgolion yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol profiadol ym maes seiberddiogelwch.

Cofrestrwch am ddim

Adnoddau’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) drwy Fusnes Cymru

Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) yn darparu nifer o offer sydd yn rhad ac am ddim i helpu sefydliadau i gryfhau eu seiberddiogelwch.

  • Cyber Action Toolkit – adnodd personol am ddim sydd wedi’i gynllunio i helpu sefydliadau bach i nodi a gwella eu mesurau seiberddiogelwch.
  • Exercise in a Box – adnodd ar-lein am ddim sy’n galluogi timau i ymarfer ymateb i senarios realistig o ymosodiadau seiber a phrofi eu cynlluniau ymateb ac adfer.

Mae Busnes Cymru yn cyfeirio sefydliadau at gyngor, canllawiau a chymorth seiberddiogelwch y Llywodraeth drwy ei Ganolfan Cyngor Seiber (Cyber Advice Hub), gan helpu sefydliadau i ddeall pa gamau y gallant eu cymryd i wella eu seibergadernid.

Cymorth digidol CGGC

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn cynnig hyfforddiant ar ddatblygu digidol a seiberddiogelwch yn rheolaidd i sefydliadau gwirfoddol.

Mae hefyd yn syniad da edrych ar wefan CGGC am gyfleoedd cyllido grantiau i gefnogi gwelliannau TG neu i gyflawni ardystiad Cyber Essentials.

Dysgwch fwy: https://wcva.cymru/cy/ydych-chin-gymwys-i-gael-hyfforddiant-sgiliau-digidol-am-ddim/

Rhoi gwybod am drosedd seiber

Tasai eich sefydliad yn cael ymosodiad seiber neu dwyll, dylech roi gwybod i Action Fraud. Bydd rhoi gwybod am ddigwyddiad yn darparu rhif cyfeirnod trosedd swyddogol yr heddlu ac yn sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei ymchwilio.

Rhowch wybod am drosedd seiber: https://www.reportfraud.police.uk/

Gall cymryd ychydig o gamau syml nawr leihau’n sylweddol y risg seiber i’ch sefydliad. Archwiliwch yr adnoddau uchod i ddechrau.

A chofiwch, os oes angen cymorth ychwanegol ar eich sefydliad, mae ein tîm datblygu yma i’ch helpu. Cysylltwch â ni ar: info@pavo.org.uk