gofod3: Rhoi’r sector gwirfoddol wrth wraidd dyfodol Cymru

 

Yn y sgwrs agoriadol yn gofod3 fis diwethaf, pwysleisiodd y Dirprwy Brif Weinidog pa mor bwysig yw rhoi’r sector gwirfoddol wrth wraidd dyfodol Cymru.

O fynd i’r afael â thlodi plant i wella iechyd a lles, amlygodd y sgwrs y rôl hanfodol y mae sefydliadau gwirfoddol yn ei chwarae wrth greu newid parhaol, diolch i’w gwreiddiau dwfn yn y gymuned, eu perthnasoedd o ymddiriedaeth a’u gallu i ddarparu cymorth yn gynnar. Gallwch ddarllen crynodeb o’r prif bwyntiau yma: https://wcva.cymru/cy/y-sector-gwirfoddol-wrth-galon-dyfodol-cymru/

Cafodd y fideo byr ond pwerus hwn gan ein partneriaid yn Voluntary Action Merthyr Tydfil ei ddangos ar ddechrau’r diwrnod. Mae’n gofyn i ni ddychmygu sut olwg fyddai ar ein cymunedau heb sefydliadau gwirfoddol, ac yn ein hatgoffa pam eu bod yn llawer mwy nag ychwanegiad dewisol.

Cymerwch olwg ar y fideo i weld pam mae sefydliadau gwirfoddol mor bwysig.