Cymerwch ran: Gwirfoddolwch yn Taith Prydain Lloyds i Ferched 2026

Mae lleoliadau cynnal Taith Prydain Lloyds i Ferched 2026 wedi cael eu datgelu gyda Chymru yn cynnal cymal tri a phedwar o’r Wyddgrug i’r Gogarth Fawr, Llandudno, a Llanidloes i’r Gelli Gandryll.

Daw rhifyn 2026, rhan o Daith y Byd UCI i Ferched, i’r Wyddgrug am y tro cyntaf ar gyfer cymal tri ddydd Gwener 21 Awst ac yn dychwelyd i Bowys ddydd Sadwrn 22 Awst.

Gweler y rhestr lawn o gymalau isod:

Cymal 1: Cockermouth – Cockermouth

Cymal 2: Clitheroe – Blackpool

Cymal 3: Yr Wyddgrug i’r Gogarth, Llandudno

Cymal 4: Llanidloes i’r Gelli Gandryll

Cymal 5: Royal Leamington Spa – Royal Leamington Spa

Bydd cyhoeddiadau pellach, gan gynnwys manylion y llwybrau ym mhum cymal ras y merched a ras y dynion, yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.   

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda Thaith Prydain? Gallwch gofrestru eich diddordeb yma a chwarae rhan yn y digwyddiad mwyaf y gellir ei wylio am ddim yn y DU.   

Mae cynnal digwyddiadau beicio mawr fel Taith Prydain Lloyds i Ferched yn rhan o bartneriaeth a gytunwyd rhwng British Cycling, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Conwy a Chyngor Powys i feithrin cysylltiadau beicio a thwristiaeth yn y rhanbarth.  

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Preston, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: “Rydym yn hynod falch o groesawu cymal pedwar Taith Prydain Lloyds i Ferched i Bowys.  Mae’n anrhydedd enfawr ac yn rhoi cyfle gwych i ni arddangos ein sir hardd a dod â manteision economaidd i’n cymunedau trwy fwy o dwristiaeth.

“Gyda disgwyl miloedd o wylwyr a sylw yn y cyfryngau byd-eang, bydd yn fuddiol i fusnesau lleol a’r economi ymwelwyr, tra hefyd yn ysbrydoli mwy o bobl i fod yn egnïol a mwynhau seiclo. Wrth i ni edrych ymlaen at gynnal rhan o Grand Départ y Tour de France yn 2027, mae digwyddiadau fel hyn yn helpu i osod Powys yn gadarn ar y map fel cyrchfan flaenllaw ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr.”

Yn y Trallwng, Powys hefyd bydd cymal tri Grand Départ y Tour de France yn 2027 yn cychwyn ar ddydd Sul 4 Gorffennaf 2027.  Bydd Taith Prydain Lloyds felly yn rhoi rhagflas o’r rhanbarth gyda rasys beicio o’r radd flaenaf yr haf hwn. Cofrestrwch i wirfoddoli yma

LLUN: Taith Prydain Lloyds i Ferched yn ystod ei hymweliad diwethaf â Phowys yn 2024.