Bydd cynnydd yn lwfans milltiroedd di-dreth HMRC yn lleddfu’r pwysau ar y sector gwirfoddol
Yn dilyn cyhoeddiad gan y Canghellor Rachel Reeves ar 21 Mai 2026, bydd lwfans milltiroedd di-dreth HMRC yn cynyddu o 45c i 55c y filltir, gyda’r newid yn cael ei ôl-ddyddio i Ebrill 2026.
Mae’r cynnydd yn newyddion cadarnhaol i’r sector gwirfoddol, yn enwedig i wasanaethau trafnidiaeth gymunedol a gyrwyr gwirfoddol sydd wedi wynebu costau tanwydd cynyddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, tra bod y lwfans wedi aros yr un fath ers 2011.
Dywedodd Clair Swales, Prif Weithredwr PAVO: “Mae’r sector gwirfoddol wedi teimlo effaith y diffyg yn y swm y gall gyrwyr gwirfoddol ei hawlio tuag at gostau tanwydd ers amser maith, ac mae hyn wedi gwaethygu wrth i brisiau godi eleni oherwydd digwyddiadau geopolitical.
“Mae gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol ledled y sir wedi cael trafferth recriwtio gyrwyr, sy’n chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau gwledig ym Mhowys, gan gynnwys cludo rhai o’n trigolion mwyaf bregus i apwyntiadau ysbyty hanfodol.
Trafnidiaeth gymunedol yn achubiaeth hanfodol
“Mae trafnidiaeth gymunedol yn aml yn achubiaeth i bobl a fyddai fel arall yn cael trafferth mynd i apwyntiadau ysbyty neu gael mynediad at wasanaethau a gweithgareddau cymdeithasol.
“Mae’r effaith yn cael ei theimlo’n gryfach fyth mewn ardaloedd gwledig, lle mae pobl yn aml yn gorfod teithio llawer ymhellach i gael mynediad at wasanaethau ac mae opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus yn gyfyngedig.
“Rydym wedi clywed yn uniongyrchol gan sefydliadau am yr effaith y mae’r gyfradd o 45c y filltir wedi’i chael ar eu gweithrediadau dydd-i-ddydd ac rydym wedi bod yn ymgyrchu ar eu rhan, gan lobïo Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i adolygu’r polisi.”
Cododd David Chadwick, Aelod Seneddol dros Frycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe, y mater yn ystod dadl yn Nhŷ’r Cyffredin ar gefnogaeth y Llywodraeth i grwpiau gwirfoddol a chanolfannau cymunedol ar 25 Mawrth. Cliciwch yma i wylio.
Mae’r sector yn croesawu’r cynnydd ond mae pwysau’n parhau
Wrth groesawu’r cyhoeddiad, ychwanegodd Swales: “Mae hwn yn amlwg yn gam i’r cyfeiriad cywir a bydd yn helpu i leddfu rhywfaint o’r baich ariannol ar yrwyr gwirfoddol a gwella cynaliadwyedd gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol.
“Fodd bynnag, rwy’n adleisio’r pryderon a godwyd gan y Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol fod llawer o sefydliadau bellach yn wynebu pwysau ariannol ychwanegol wrth weithredu’r gyfradd uwch.
“Mae llawer o sefydliadau gwirfoddol eisoes wedi cynllunio eu cyllidebau a’u ceisiadau cyllid ar gyfer 2026/27 yn seiliedig ar y lwfans blaenorol o 45c, tra hefyd yn wynebu costau cynyddol a galw cynyddol am wasanaethau.”
Wrth ysgrifennu ar Facebook, dywedodd y Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol:
“…mae gwaith i’w wneud o hyd, gan fod angen adnoddau ariannol ar Drafnidiaeth Gymunedol bellach i weithredu’r gyfradd newydd AMAP (Approved Mileage Allowance Payment). Dylai llywodraeth ganolog, ddatganoledig a lleol ddarparu cynnydd mewn grantiau a chontractau sy’n talu’r costau ychwanegol. Roedd ceisiadau sefydliadau gwirfoddol am grantiau a chontractau ar gyfer 2026/27 wedi’u seilio ar y gyfradd flaenorol o 45c ar adeg pan oedd eu cyllidebau eisoes dan bwysau oherwydd chwyddiant a galw cynyddol.”
Mae angen buddsoddiad hirdymor o hyd
Daeth Swales i’r casgliad: “Mae’r sector yn parhau o dan bwysau sylweddol a byddwn yn parhau i dynnu sylw at bwysigrwydd buddsoddiad hirdymor yn y sector gwirfoddol.”
