Wythnos Gweithredu Dementia 2026 ym Mhowys
18–24 Mai 2026 yw Wythnos Gweithredu Dementia, ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol sy’n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o ddementia.
Drwy gydol yr wythnos, bydd ein Tîm Llesiant Cymunedol yn gweithio gyda Llywiwyr Dementia Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a phartneriaid lleol eraill i gynnal cyfres o ddigwyddiadau galw heibio ledled Powys.
Mae’r sesiynau hyn yn cynnig cyfle i siarad yn uniongyrchol â gweithwyr proffesiynol, dysgu mwy am wasanaethau cymorth dementia, a darganfod pa gymorth sydd ar gael yn eich ardal leol.
Mae pob digwyddiad am ddim i fynychu. Nid oes angen archebu.
- Dydd Llun 18 Mai 10:00yb – 12:00yp, Marchnad Da Byw’r Trallwng
- Dydd Mawrth 19 Mai 10:00yb – 2:00yp, Bear Lanes Newtown
- Dydd Mawrth 19 Mai 10:00yb – 2:00yp, Morrisons Aberhonddu
- Dydd Mercher 20 Mai 10:00yb – 2:00yp, Tesco Llandrindod
- Dydd Iau 21 Mai 10:00yb – 12:00yp, Sgwâr y Farchnad Y Gelli Gandryll
- Dydd Iau 21 Mai 1:00yb – 3:00yp, Prif Sgwâr Talgarth
- Dydd Gwener 22 Mai 10:00yb – 2:00yp, Co-op Llanfair-ym-Muallt
- Dydd Gwener 22 Mai 11:00yb – 1:00yp, Canolfan Ymwelwyr Llyn Efyrnwy
Dewch draw am wybodaeth a sgwrs gyfeillgar gyda’r tîm.
