Mae Ton 3 Baromedr Cymru yn fyw.
Baromedr Cymru yw’r arolwg chwarterol dwyieithog ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru, wedi’i gyflwyno gan CGGC ac Arsyllfa Data a Mewnwelediadau’r VCSE ym Mhrifysgol Nottingham Trent.
Ffocws: Perthynas y sector gwirfoddol â’r llywodraeth
Bydd arolwg Ton 3 yn fyw rhwng 29 Ebrill a 20 Mai ac mae’n canolbwyntio ar berthynas eich mudiad â gwahanol lefelau llywodraeth a’r rhagolygon ar gyfer y sector yn y dyfodol.
Mae etholiad y Senedd 2026 yn dod â newidiadau hanesyddol – Senedd estynedig, system etholiadol newydd a mwy o wynebau a phleidiau newydd nag yr ydym wedi’u gweld erioed. Mae’r berthynas rhwng mudiadau gwirfoddol a phob lefel o lywodraeth yn rhan bwysig o ddarparu gwasanaethau.
Mae’r don hon yn sefydlu llinell sylfaen i’w holrhain dros amser i nodi a yw mudiadau gwirfoddol o’r farn bod gwahanol lefelau llywodraeth yn ymddwyn mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu egwyddorion y Cyfamod Cymdeithas Sifil newydd.
Yng Nghymru, mae ei egwyddorion o gydnabyddiaeth a gwerth, partneriaeth a chydweithio, cyfranogiad a chynhwysiant, a thryloywder a data yn ategu’r Cynllun Trydydd Sector hirsefydlog.
Pam mae eich mewnbwn yn bwysig
Bydd eich cyfraniad chi yn helpu i greu darlun mwy eglur o sut mae’r sector yng Nghymru yn perfformio, gan lywio trafodaethau cenedlaethol ar gyllid, buddsoddiad a chefnogaeth i fudiadau gwirfoddol o bob maint.
Darllenwch ein blog diweddaraf gan ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau a Pholisi, Ross Thomas, sy’n egluro pam mae Baromedr Cymru yn bwysig!
https://wcva.cymru/cy/views/baromedr-cam-enfawr-ymlaen-ir-sector-gwirfoddol-yng-nghymru/
Os byddwch chi’n cymryd rhan, byddwch chi’n cael:
- Adroddiad Cipolwg byr i’ch helpu chi i ddeall eich profiad o’i gymharu â’r darlun ehangach
- Mynediad at ddangosfwrdd dwyieithog sy’n eich helpu i wneud synnwyr o’r canfyddiadau
- Gwahoddiad i weminar am ddim a fydd yn edrych ar y canfyddiadau a’r goblygiadau ymarferol
Mae Pob Ateb yn Cyfri
Waeth a yw eich mudiad yn fawr neu’n fach, bydd eich llais yn helpu i adeiladu dyfodol cryfach i’r sector gwirfoddol yng Nghymru sy’n canolbwyntio mwy ar dystiolaeth.
Cyflwynwch eich atebion erbyn dydd Mercher 20 Mai sicrhau bod llais eich mudiad yn cael ei glywed.
