Hyfforddiant rhad ac am ddim ar gael

Mae’r hyfforddiant wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau pobl sy’n byw gydag HIV yng Nghrymu’n ganolog i’r hyfforddiant staff sy’n gofalu am bobl sy’n byw gydag HIV yn ein cymunedau ac mewn cartrefi gofal ledled Cymru.

Nod ein cwrs hyfforddiant yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o HIV, sut mae’n cael ei basio ymlaen a’r neges “Ni all basio ymlaen’/Anghanfyddadwy = Anhrosglwyddadwy”. Mae hyn yn golygu y gall staff ddarparu gofal rhagorol i bobl sy’n byw gydag HIV sy’n cael mynediad i gymorth, nawr ac yn y dyfodol.

Mae’r hyfforddiant ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac yn ffocysu ar:

  • Y ffeithiau am HIV
  • Triniaeth HIV
  • Gweithio’n ddiogel
  • Gofalu am bobl yn y gymuned ac mewn cartrefi gofal preswyl

Mae’r adnodd dysgu hunangyfeiriedig wedi’i rannu’n adrannau gwahanol fel y gall dysgwyr ddysgu wrth eu pwysau a dychwelyd ato i fwrw golwg fanylach ar rywbeth eto. Ar ôl cwblhau’r holl adrannau, gall dysgwyr roi gynnig ar gwis i brofi eu gwybodaeth a gofyn am dystysgrif.

Lledaenwch y cyfle hyfforddi hwn ar draws eich rhwydweithiau i helpu i sicrhau mynediad eang i gydweithwyr ar draws y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.

https://tht.cymru/info-support/cant-pass-it-on-training-for-social-care/