
Hyfforddiant Gwirfoddoli Ieuenctid a Theuluoedd: Galluogi Gwirfoddoli Diogel, Cynhwysol ac Ystyrlon i Bobl Ifanc a Theuluoedd

Mae’r hyfforddiant hwn yn canolbwyntio ar alluogu sefydliadau i gael yr offer i greu cyfleoedd diogel, ystyrlon ac ymgysylltiol, tra’n archwilio ffyrdd ymarferol o wneud gwirfoddoli ieuenctid a theuluoedd yn gynhwysol ac yn werth chweil. Rhowch hwb i effaith eich sefydliad drwy gynnwys pobl ifanc a theuluoedd mewn gwirfoddoli.
Canlyniadau Dysgu:
Trafod gwerth ac effaith bosibl gwirfoddoli ieuenctid a theuluoedd ar y sefydliad, y gwirfoddolwyr, a’r gymuned.
Nodi’r cyfrifoldebau cyfreithiol, diogelu ac o fewn y sefydliad wrth gynnwys pobl ifanc a theuluoedd mewn gwirfoddoli.
Cynyddu dealltwriaeth o egwyddorion allweddol wrth ddylunio rolau gwirfoddoli ystyrlon sy’n briodol i oedran ar gyfer pobl ifanc.
Archwilio dulliau ymarferol o gefnogi, goruchwylio a dathlu cyfraniadau pobl ifanc a theuluoedd.
Datblygu mwy o hyder wrth ddechrau neu ehangu mentrau gwirfoddoli ieuenctid a theuluoedd o fewn eu sefydliadau eu hunain.
Lleoliad: Swyddfa PAVO, Uned 30 Ystad Ddiwydiannol Heol Ddole, Llandrindod, LD1 6DF
Archebwch eich lle yma os gwelwch yn dda: FFURFLEN ARCHEBU
