Mae CGGC a Cwmpas yn galw am ddull ariannu cytbwys a chynaliadwy
Mewn datganiad ar y cyd, mae CGGC a Cwmpas yn annog y llywodraeth i fabwysiadu dull mwy cytbwys ac ymarferol o ariannu ac ymgysylltu â sefydliadau gwirfoddol, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol yng Nghymru yn ystod cyfnod o ansicrwydd cynyddol.
Mae’r datganiad yn tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae’r sectorau hyn yn ei chwarae yn economi a chymunedau Cymru – gan gyfrannu biliynau bob blwyddyn, cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, a darparu gwasanaethau lleol hanfodol.
Fodd bynnag, maent yn rhybuddio bod newidiadau sydd ar ddod i strwythurau ariannu, gan gynnwys diwedd Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF) a symudiad tuag at raglenni sy’n canolbwyntio mwy ar gyfalaf, mewn perygl o danseilio’r effaith hon trwy leihau mynediad at gyllid refeniw hanfodol sydd ei angen ar gyfer staffio, darparu gwasanaethau a chynaliadwyedd hirdymor.
Maent hefyd yn pwysleisio bod y newidiadau hyn yn dod ar adeg o bwysau cynyddol, gyda sefydliadau’n wynebu costau cynyddol, galw cynyddol a llai o wydnwch ariannol. Heb weithredu ar unwaith, mae’r datganiad yn rhybuddio bod perygl gwirioneddol o golli staff medrus, crebachu gwasanaethau a gwanhau darpariaeth gymunedol ddibynadwy.
Drwy’r datganiad ar y cyd hwn, mae CGGC a Cwmpas yn galw am fesurau brys, gan gynnwys cyllid refeniw trosiannol, cydbwysedd gwell rhwng buddsoddiad cyfalaf a refeniw, ac ymgysylltu ystyrlon â’r sector wrth ddylunio rhaglenni ariannu newydd. Gyda newid gwleidyddol ar y gorwel, maent yn pwysleisio bod yr adeg hon yn cyflwyno risgiau sylweddol a chyfle pwysig i gryfhau’r sector ar gyfer y dyfodol.
