Lansio Canolfan Iechyd Menywod Ar-lein
Lansiwyd Canolfan Iechyd Menywod ar-lein newydd a fydd yn galluogi menywod
o bob oed ledled Powys i ddod o hyd i wybodaeth a chyngor defnyddiol yn
gyflym ar ystod eang o bynciau iechyd menywod ar 12 Mawrth yn Llanfair-ym-
Muallt.
Maer ganolfan yn cynnwys ystod eang o bynciau gan gynnwys:
Iechyd y mislif ar pelfis
Iechyd rhywiol ac atal cenhedlu
Sgrinior fron a sgrinio serfigol
Beichiogrwydd
Terfynu
Endometriosis ar menopos
Rheoli poen
Gwasanaethaur bledren ac ymataliaeth
Iechyd meddwl a lles
Gan ddefnyddio mewnwelediadau gan dros 300 o fenywod ym Mhowys, mae
clinigwyr wedi datblygu’r cynnwys ar gyfer gwefan ar-lein newydd Powys
http://www.biap.gig.cymru/iechyd-menywod
Maer wefan yn cefnogi Cynllun Iechyd Menywod deng mlynedd GIG Cymru a
lansiwyd ym mis Rhagfyr 2024. Maer cynllun yn canolbwyntio ar fuddsoddi
mewn dull ataliol i leihau anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru a chreu
system iechyd a gofal syn gwrando ar, ac yn gweithio dros bob menyw drwy
gydol eu hoes.
Mynychwyd y digwyddiad lansio gan Janine Hale, Pennaeth Iechyd Menywod (ar
ran Gweinidog Llywodraeth Cymru), ynghyd â chynrychiolwyr o Gymdeithas
Sefydliadau Gwirfoddol Powys (PAVO), rhai or menywod a roddodd eu barn a
thimaur bwrdd iechyd gan gynnwys yr Arweinydd Clinigol ar gyfer y ganolfan,
Iechyd Menywod a Theuluoedd, yr Academi Gofal Sylfaenol a Chymunedol a
nyrsys syn cefnogi anghenion iechyd menywod.
Dywedodd Sharon Healey , Pennaeth Iechyd, Lles a Phartneriaethau yn PAVO
a arweiniodd at gasglu adborth gan fenywod ledled y sir:

“Cawsom ein comisiynu i gynnal ymarfer ymgysylltu ledled y sir i ddeall a oedd
cefnogaeth i Ganolfan Iechyd Menywod, ac yn hollbwysig, sut olwg ddylai fod ar
y ganolfan. Dros gyfnod o chwe wythnos, fe gasglom farn dros 330 o unigolion
â phrofiad bywyd o bob cwr o Bowys, gan gynnwys cymunedau sydd yn aml yn
cael eu tangynrychioli. Roedd y menywod y siaradom â nhw on cymunedau
Sipsiwn a Theithwyr, amaethyddol neu wledig, wedi profi cam-drin domestig
neun deuluoedd incwm isel neun gweithio gyda sefydliadau anabledd, ac roedd
y neges yn glir. Mae galw mawr am y Ganolfan Iechyd Menywod hon ym
Mhowys, ac rwyf wrth fy modd bod lleisiaur menywod hyn wedi dylanwadu ac y
byddant yn parhau i ddylanwadu ar siâp a gwybodaeth a sy’n cael ei darparu ar
y platfform hwn yn y dyfodol.”
Yn ogystal âr gwaith sydd eisoes wedii wneud, mae PAVO wedi bod yn cynnal
rhai grwpiau ffocws dilynol a bydd yn ymgysylltu â phobl ifanc fel rhan or
prosiect ac yn rhoi mwy o adborth ar eu barn.
