Prifysgol Aberystwyth – Cyrsiau Byr Am Ddim

Ysgrifennaf atoch i’ch hysbysu o’r Cynllun Hepgor Ffioedd sydd ar gael ar hyn o bryd i unigolion yng Nghymru na fyddai fel arall yn cael mynediad i addysg uwch gan gynnwys gofalwyr cyflogedig a di-dâl.

Diolch i gyllid gan Medr, gallwn ganiatáu i ddysgwyr cymwys astudio ein cyrsiau byr yn rhad ac am ddim. Mae ein cyrsiau newydd, sy’n dechrau ym mis Mawrth, Ebrill a Mai 2026 bellach ar gael i’w harchebu.

Rydym yn gofyn am eich help i hysbysu grwpiau perthnasol am y cyfle gwych hwn fel y gall cymaint o bobl â phosibl fanteisio ar y cyfle rhad ac am ddim hwn i ennill sgiliau, gwybodaeth a chymwysterau gwerthfawr.

Rhaid i ddysgwyr fod yn byw yng Nghymru a rhaid iddynt hefyd fodloni o leiaf un o’r amodau canlynol:

  1. Bod y dysgwr, neu deulu’r dysgwr, yn cael Credyd Cynhwysol neu ei ragflaenwyr; Lwfans Ceisio Gwaith; Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  2. Mae’r dysgwr yn derbyn lwfans Gofalwr neu gredyd gofalwr; Premiwm anabledd neu gymorth ariannol arall sy’n gysylltiedig ag anabledd; Buddion profedigaeth
  3. Bod y dysgwr yn dod o grŵp yr ystyrir ei fod yn cael ei dangynrychioli mewn addysg uwch, megis:
  • rhai sy’n gadael gofal neu ddysgwyr sydd â phrofiad o ofal
  • dysgwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu gan gynnwys gofalwyr di-dâl
  • dysgwyr ag anableddau
  • dysgwyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig
  • Dysgwyr LGBTQ+
  • ffoaduriaid a cheiswyr lloches
  • y rhai sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg
  • dysgwyr o bob oed o ardaloedd yn ddau cwintel isaf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019

Fel y gwelwch, mae’r meini prawf cymhwysedd yn eang, gan ganiatáu mynediad i lawer o grwpiau. Yr unig dystiolaeth sydd ei hangen yw prawf o gyfeiriad yng Nghymru.

Mae ein cyrsiau yn agored i bawb ac nid oes angen unrhyw brofiad neu gymwysterau blaenorol ar y rhan fwyaf ohonynt.

Mae gwybodaeth ychwanegol am y Cynllun Hepgor Ffioedd hefyd ar gael ar ein gwefan: Cynllun Hepgor Ffioedd  : Dysgu Gydol Oes , Prifysgol Aberystwyth

Os hoffech drafod hyn ymhellach neu os oes angen unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ychwanegol arnoch, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy dysgu@aber.ac.uk