Gwirfoddoli PAVO ym Mhowys – Galw am Bartneriaid Cyflenwi Gwirfoddoli
Mae PAVO yn chwilio am Bartneriaid Cyflenwi Gwirfoddoli i helpu i ddarparu gwasanaethau gwirfoddoli lleol ledled Powys.
Nod y cyllid hwn yw cefnogi a thyfu gwirfoddoli o fewn cymunedau lleol trwy gynyddu ymwybyddiaeth o gyfleoedd a helpu mwy o bobl i gymryd rhan.
Bydd Partneriaid Cyflenwi Gwirfoddoli llwyddiannus yn:
- Hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli trwy’r cyfryngau cymdeithasol, rhwydweithiau lleol, a straeon gwirfoddoli cadarnhaol.
- Mynd i’r afael ag anghenion gwirfoddoli lleol trwy wneud cyfleoedd yn haws i’w cyrchu, cefnogi unigolion i rolau addas, a helpu sefydliadau lleol i gysylltu â gwirfoddolwyr.
- Helpu i sicrhau bod gwirfoddolwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi, a’u bod yn hyderus i gymryd rhan.
Nod y cyllid hwn yw mynd i’r afael ag anghenion gwirfoddoli lleol trwy:
- Hyrwyddo gwirfoddoli yn lleol
- Recriwtio gwirfoddolwyr a’u cefnogi i rolau
- Cysylltu pobl â grwpiau gwirfoddol eraill
- Hyrwyddo digwyddiadau gwirfoddoli PAVO
- Galluogi cofrestru gwirfoddolwyr ar wefan Gwirfoddoli Cymru.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Bartneriaid Cyflenwi Gwirfoddoli yn yr ardaloedd canlynol:
- Llanfair-ym-muallt a Llanwrtyd
- Y Gelli Gandryll a Thalgarth
- Llandrindod
- Llanandras
- Y Trallwng, Llanfyllin a Llanfair Caereinion
Dysgwch fwy drwy ymuno ag un o’n sesiynau gwybodaeth anffurfiol ar-lein:
12 Mawrth am 2:00yp
16 Mawrth am 10:00yb
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os na allwch fynychu un o’r sesiynau, cysylltwch â:
Dyddiad cau: 31 Mawrth 2026 am 5yp
