Gwnewch Gais Nawr: Cronfa Cymorth Gofalwyr 2026-29

Rydym ni’n falch o gyhoeddi bod ceisiadau ar agor ar gyfer Cronfa Cymorth Gofalwyr 2026-29 yn dilyn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau i ariannu’r rhaglen hollbwysig hon.

 

Dyma gyfle gwych i sefydliadau sy’n rhoi cymorth i ofalwyr di-dâl i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’r rhai sy’n wynebu caledi ariannol.

Beth sydd ar gael?

 

  • Cyllid ar gael: tua £1.5 miliwn
  • Isafswm grant: £20,000
  • Ar agor i bartneriaid cyflawni presennol a newydd
  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10am, 23 Mawrth 2026
  • Dwy sesiwn holi ac ateb ar-lein i gael arweiniad

 

Nodau’r rhaglen:

  • Ei gwneud hi’n haws i ofalwyr di-dâl gael mynediad at wasanaethau cynyddu incwm
  • Darparu cyngor a chymorth hyblyg ar gyfer costau byw
  • Cynnig cymorth ariannol uniongyrchol i ofalwyr sy’n oedolion ac i ofalwyr ifanc sy’n wynebu caledi

 

Canlyniadau disgwyliedig:

  • Gofalwyr yn cael cymorth i fynd i’r afael â heriau costau byw
  • Gwell mynediad at gyngor a chymorth ariannol
  • Llesiant meddyliol gwell i ofalwyr
  • Rhagor o gyfleoedd i gynyddu incwm

 

Nodyn pwysig:

Rhaid dyrannu o leiaf 20% o’r arian rydych chi’n gwneud cais amdano i wasanaethau cynyddu incwm.

Y camau nesaf:

 

 

  • 2–3pm dydd Mawrth 24 Chwefror 2026; o
  • 10–11am dydd Mercher 4 Mawrth 2026

 

Anfonwch e-bost at csfw@carers.org gyda’ch enw, sefydliad, a chyfeiriad e-bost, gan nodi’r cyfarfod yr hoffech fynychu, i dderbyn dolen y cyfarfod.

 

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â csfw@carers.org.