Loading Events

« All Events

Dylunio Posteri a Greffeg Ar-lein

Mawrth 9 @ 11:00 am - 1:00 pm

Mae Canva yn offeryn meddalwedd dylunio ar-lein, sy’n gwneud dylunio graffeg yn haws. Bydd y sesiwn hon yn eich tywys trwy nodweddion Canva gan gynnwys creu cyfrif. Y nod yw helpu sefydliadau i greu graffeg sy’n apelio’n weledol gan ddefnyddio meddalwedd am ddim.

CANLYNIADAU

• Gallu creu cyfrif a deall sut i wneud cais am fersiwn pro Canva fel elusen
• Deall gwahanol nodweddion Canva
• Edrych ar ddefnyddio templedi a chreu dyluniadau
• Gallu rhannu creadigaethau ag eraill i gael adborth neu gydweithio
• Sut i lawrlwytho a chlonio creadigaethau
• Creu poster neu graffeg syml a chlir ar gyfer eich sefydliad

Mae’r sesiwn hon ar gyfer unrhyw un sy’n edrych ar ddylunio posteri neu graffeg ar gyfer eu sefydliad. (Gwirfoddolwyr ac aelodau staff)

I archebu cliciwch yma : FFURFLEN ARCHEBU

Mae’r cwrs hwn wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant a Rennir y DU, gyda chefnogaeth Cyngor Sir Powys.

Details

  • Date: Mawrth 9
  • Time:
    11:00 am - 1:00 pm
  • Event Category: