Cronfa Gweithredu Hinsawdd – Systemau Bwyd

Rydym am ariannu prosiectau sy’n cryfhau ein system fwyd ac yn lleihau ansicrwydd bwyd i bobl a chymunedau.

Rydym am gefnogi ffyrdd o gynhyrchu digon o fwyd iach a fforddiadwy heb niweidio’r blaned.

Byddwn yn gwneud hyn drwy gefnogi gwaith sy’n:

  • gweithio gyda natur i greu systemau bwyd gwydn, cynaliadwy a theg (gelwir hyn yn agroecoleg)
  • mynd i’r afael â gwraidd problemau hirdymor, nid dim ond y symptomau (gelwir hyn yn newid systemau)

Rhaid i chi fodloni un neu fwy o’n hamcanion

  • Rhaid i’ch prosiect weithio tuag at newid systemau yn y ffordd y mae:
  • mae mudiadau cymunedol yn tyfu ac yn cynhyrchu bwyd – gan ddefnyddio dulliau agroecolegol
  • mae bwyd yn cael ei ddosbarthu – gan anelu at fynediad cyfartal at fwyd iach a fforddiadwy i bawb
  • cynnig opsiynau bwyd gwahanol i bobl a chymunedau – yn enwedig y rhai sy’n profi tlodi, anfantais neu wahaniaethu
AM MWY O WYBODAETH, A MANYLION SUT I WNEUD CAIS CLICIWCH YMA