RESILIENT POWYS

DYDD SADWRN 7 CHWEFROR 2026
10AM I 4PM
NEUADD GYMUNEDOL TREF-Y-CLAWDD A’R CYLCH, LD7 1D
Mae Powys yn llawn pobl a phrosiectau sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth i’r hinsawdd a natur – ond sut allwn ni gysylltu, cydweithio a chynyddu’r effaith? Ymunwch â ni am ddigwyddiad undydd sy’n dod â chynghorwyr, arweinwyr cymunedol, sefydliadau amgylcheddol a’r rhai sy’n arwain mentrau cymunedol a busnes ynghyd i adeiladu Powys mwy gwydn.

Gyda’n gilydd byddwn ni yn:
 Archwilio dadansoddiad newydd ar gyflwr hinsawdd a natur yn y sir
 Derbyn ysbrydoliaeth gan bobl a phrosiectau sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth
 Dysgu am gyfleoedd i drawsnewid ynni, teithio, bwyd, economi, natur a rhagor
 Bod yn greadigol a dychmygu dyfodol gwahanol i Bowys
 Cysylltu â thrawsnewidwyr ac arbenigwyr o’r un anian i droi syniadau yn weithred

Archebwch eich lle nawr; powys-gwydn.eventbrite

Trefnwyd gan:  Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys (BGC). Mae BGC Powys yn bartneriaeth ofudiadau cyhoeddus a gwirfoddol sy’n cydweithio er mwyn edrych yn hirdymor ar faterion sy’n bwysig i bobl y sir
Cefnogaeth: Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant a Rennir y DU. Cefnogir y digwyddiad hwn gan Egin, DTA Cymru, Cultivate a Phartneriaeth Bwyd Powys