Grantiau Macmillan CARE

Rhaglen Grantiau CARE (Culture • Agency • Respect • Equity) Macmillan. Bydd y rhaglen beilot hon yn ariannu prosiectau dan arweiniad cymunedau sy’n cynnig mewnwelediadau newydd ac effaith. Bydd grantiau’n canolbwyntio ar dri maes allweddol:

  • Ymatebolrwydd Diwylliannol: Gwella sensitifrwydd gofal canser ar gyfer anghenion diwylliannol amrywiol.
  • Gwneud Penderfyniadau ar y Cyd: Grymuso pobl i ddeall a chymryd rhan yn eu dewisiadau gofal.
  • Gofal Canser Cyfeillgar i Ddementia: Gwella cymorth i unigolion sy’n byw gyda chanser a dementia.

Mae’r rhaglen yn agored i sefydliadau gwirfoddol, cymunedol, ffydd a mentrau cymdeithasol (VCFSE) ar draws y DU. Rydym ni’n chwilio am grwpiau â diddordeb mewn mynd i’r afael ag annhegwch a chyflawni datrysiadau wedi’u cyd-ddylunio, sy’n cael eu harwain gan y gymuned.

Yn y rownd gyntaf, mae hyd at £1.5 miliwn ar gael, gyda grantiau’n amrywio o £50,000 i £150,000. Mae’r gronfa nawr ar agor ac mae’n cau ar 23 Ionawr 2026.

Gallwch ddysgu mwy yn www.macmillan.org.uk/about-us/what-we-do/macmillan-funding-grants/care-grants