
Cyflwyniad i Fesur a Rheoli Gwerth Cymdeithasol

Mae’r rhaglen hyfforddiant dau hanner diwrnod hon yn cynnig cyflwyniad ymarferol, cam wrth gam i’r broses Gwerth Cymdeithasol a SROI. Byddwn yn dechrau gyda rhywfaint o ddamcaniaeth, ond drwy ddefnyddio
enghreifftiau o’r byd go iawn byddwn yn gweithio drwy’r cwestiynau effaith ac yn adeiladu eich map gwerth eich hunan. https://mantellgwynedd.com/downloads/190123-measuring-and-managing-social-value-1-day.pdf
Dan arweiniad Eleri Lloyd Roberts, Rheolwr Gwerth Cymdeithasol gyda Mantell Gwynedd. Cyflwyniad i werth cymdeithasol
Deall beth yw gwerth cymdeithasol
Sut i fesur gwerth cymdeithasol
Gweithio drwy’r deg cwestiwn effaith a all eich helpu i ddeall effaith eich gwaith
Cyflwyno’r map gwerth
Adnabod meincnodau, safonau a fframweithiau canlyniadau presennol
Ymarferion ymarferol i hwyluso dealltwriaeth o sut i fesur gwerth cymdeithasol gweithgareddau eich mudiad, gan gynnwys mapio rhanddeiliaid a mapio’r ddamcaniaeth newid
Cyflwyniad i reoli gwerth cymdeithasol gan gynnwys cyflwyniad i’r pecyn offer ar gyfer mudiadau
Sut i ddefnyddio data i wneud y mwyaf o’ch effaith gymdeithasol
Mae ein gweithgareddau yn ddiamau yn creu effeithiau heblaw am enillion ariannol. Boed yn newidiadau i iechyd a lles pobl, cymunedau cryfach, neu leihau’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus, mae’r rhain yn ganlyniadau pwysig i’n gwaith. Eto i gyd, prin y byddwn yn mesur yr effeithiau hyn ac yn eu cyfathrebu i ni ein hunain ac eraill mewn ffordd sy’n ystyrlon ac yn ddefnyddiol. Felly, mae gwerth cymdeithasol yn
derm eang a ddefnyddir i ddangos y gallwn ddal gwerth y tu hwnt i enillion ariannol yn unig.
Ymddiriedolwyr, staff neu wirfoddolwyr sydd am fabwysiadu’r fethodoleg Gwerth Cymdeithasol ac Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi (SROI) o fewn eu mudiadau.
Cyflwyniad gwych ar gyfer mudiadau sy’n dymuno gweithredu’r broses.
lwyno gan Eleri Roberts o Gwerth Cymdeithasol Cymru
Cost: £40 for PAVO members
Book here: BOOKING FORM



