Cronfa Gymunedol Hafren Dyfrdwy yn awr yn agored!
Eleni, mae gennym £60,000 i’w ddyfarnu i grwpiau o fewn rhanbarth Hafren Dyfrdwy i helpu i dalu costau craidd.
Ein meini prawf
Mae’r cyllid hwn ar gyfer grwpiau sy’n darparu gwasanaeth hanfodol i drigolion lleol ac sydd yn ei chael hi’n anodd cynnal eu gweithgareddau cyfredol.
Gall grwpiau cymwys ymgeisio i gael eu hystyried am grant cyfyngedig sydd rhwng £2,000 a £10,000 am 1 flwyddyn i’w helpu i barhau i ddarparu’u gwasanaethau hanfodol i’n cymunedau.
Mae’r cymorth hwn ar gael i sefydliadau nid-er-elw sy’n:
- darparu gwasanaeth hanfodol i drigolion lleol, ac sy’n gwella lles cymunedol mwy cyffredinol, yn enwedig cynorthwyo’r rheiny sydd fwyaf agored i niwed;
- sydd wedi bod yn gweithredu am 12 mis neu fwy (ac sydd ag o leiaf un set o gyfrifon ffurfiol);
- sydd ag incwm blynyddol o £250,000 neu lai (yn seiliedig ar gyfrifon ‘llynedd).
Os yw sefydliad yn ymwneud â ffydd, mae’n gymwys i ymgeisio cyn belled â bod y cais ar gyfer gwaith cymunedol, e.e., banciau bwyd neu ganolfannau clyd. Ni allwn gyllido ymarfer crefydd nac unrhyw weithgareddau sy’n hyrwyddo crefydd yn weithredol neu systemau cred neilltuol.
Nid yw grwpiau chwaraeon, y Sgowtiaid, y Geidiau, Cadlanciau na chyrff statudol yn gymwys ar gyfer y ffrwd gyllido hon.
Mae ceisiadau yn awr yn agored a byddant yn agored tan y bydd y cyllid wedi’i ddyfarnu.
Gellir canfod ein meini prawf llawn ynglŷn â chymhwysedd a manylion am sut i ymgeisio yn www.hdcymru.co.uk/communityfund
