Ymchwil i effaith gwasanaethau atal a ymyrraeth gynnar gofal cymdeithasol

Mae Practice Solutions wedi cael ei gomisiynu gan Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chefnogaeth Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwil i effaith gwasanaethau atal a gwasanaethau ymyrraeth gynnar gofal cymdeithasol.

Fel rhan o’r ymchwil hon, mae cyfle i’r Trydydd Sector a phobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau atal gwblhau’r arolygon isod. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall rôl gwasanaethau ataliol a gomisiynwyd, sut maen nhw wedi cael eu hariannu dros y deng mlynedd diwethaf, a’r effaith maen nhw wedi’i chael.

SEFYDLIADAU TRYDYDD SECTOR

Ymchwil Atal Gofal ac Ymyrraeth Gynnar Gofal Cymdeithasol– Trydydd Sector

POBL Â PHROFIAD O WASANAETHAU

Ymchwil Atal ac Ymyrraeth Gynnar Gofal Cymdeithasol – Profiad byw o wasanaethau

Y dyddiad cau ar gyfer y ddau arolwg yw DYDD SUL 30ain TACHWEDD 11am.