Cynhadledd Diogelu Genedlaethol Ar-lein Cymru 2025 – BWCIWCH EICH LLE NAWR
Mae’r agenda derfynol a’r ddolen gofrestru ar gyfer ein cynhadledd genedlaethol flynyddol ar ddiogelu yng Nghymru wedi’u cynnwys isod.
Ar gyfer 2025, ein ffocws yw ‘Arwain o brofiad byw mewn diogelu: Gwrando, dysgu a gwreiddio mewn ymarfer’. Cynhelir hyn drwy MS Teams ar ddydd Mercher 12 Tachwedd 2025, 9.30yb – 3yp, MS Teams.
Gallwch gofrestru eich lle drwy’r ddolen Eventbrite yma: National Safeguarding Conference Wales/ Cynhadledd Genedlaethol Cymru ynghy Tickets, Wed, Nov 12, 2025 at 9:30 AM | Eventbrite
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi bryd hynny.
Cynhadledd Ddiogelu Genedlaethol Ar-lein Cymru 2025
Arwain o brofiad go iawn ym maes diogelu:
Gwrando, dysgu ac ymgorffori mewn ymarfer.
Dydd Mercher 12 Tachwedd 2025, 9.30am – 3pm, MS Teams
Mae Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Manceinion, yn falch o gyhoeddi ei Gynhadledd Ddiogelu Genedlaethol ar-lein flynyddol ar gyfer 2025.
Agenda’r Bore:
09.30 Cyflwyniad a chroeso – Tony Young, Cadeirydd y Bwrdd Diogelu a’r Athro McManus, Prifysgol Metropolitan Manceinion (10 munud)
09.40 Rhagair – Gweinidog/Llywodraeth Cymru (5 munud)
09.45 Arolygiaeth Gofal Cymru, Kevin Barker, Dysgu o Adolygiadau Cyflym ac Arolygiadau ar y Cyd (cyflwyniad am 35 munud, cwestiynau am 10 munud)
10.30 Archwilio ymarfer perthynol a phrofiad go iawn mewn Adolygiadau Ymarfer Plant, Prifysgol Metropolitan Manceinion (cyflwyniad am 35 munud, cwestiynau am 10 munud)
11.15 Egwyl fer (10 munud)
11.25 Olrhain yr hyn sy’n bwysig – Chris Frey-Davies (cyflwyniad am 35 munud, cwestiynau am 10 munud)
12.10 Diwedd sesiwn y bore
Agenda’r Prynhawn:
12.40 Croeso nôl – Tony Young, Cadeirydd y Bwrdd Diogelu
12.45 Yr Athro Christine Cocker, Prifysgol Dwyrain Anglia – Diogelu Trosiannol (cyflwyniad am 35 munud, cwestiynau am 10 munud)
13.30 Siaradwr Ysbrydoledig – Wes Cunliffe (cyflwyniad am 30 munud, cwestiynau am 10 munud)
14.10 Egwyl fer (10 munud)
14.20 Siaradwyr i ateb cwestiynau a sylwadau: Arwain o brofiad go iawn ym maes diogelu: Gwrando, dysgu ac ymgorffori mewn ymarfer
1. Beth yr ydym yn ei wneud yn dda?
2. Beth y mae angen i ni ei wneud nesaf?
3. Adborth: a fu’n ddefnyddiol, ac os felly, sut? Ynglŷn â beth yr hoffech weld mewnbwn pellach?
14.55 Sylwadau clo – Tony Young, Cadeirydd y Bwrdd Diogelu
15.00 Dod â’r Gynhadledd i ben
