Beth sy’n bwysig i chi? Dywedwch eich dweud mewn Sgwrs Gymunedol yn eich ymyl chi

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn cynnal cyfres o Sgyrsiau Cymunedol ar draws y sir.

Bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i drigolion Powys rannu’r hyn sy’n fwyaf pwysig iddynt, tynnu sylw at fylchau mewn gwasanaethau lleol, a chynnig awgrymiadau ymarferol ar gyfer gwelliannau y byddent yn hoffi eu gweld yn eu cymunedau.

Bydd pob digwyddiad hefyd yn cynnwys Ffair Gymunedol, lle gall pobl gwrdd â grwpiau lleol, dysgu am y cymorth sydd ar gael, a darganfod beth sy’n digwydd yn eu hardal.

Rydym eisoes wedi cynnal digwyddiadau llwyddiannus yng Nghrucywel a Llanwrtyd, lle roedd trigolion yn gwerthfawrogi’r cyfle i gysylltu, rhwydweithio a rhannu eu syniadau ar gyfer eu cymunedau.

Rhestr o ddigwyddiadau sydd ar ddod:

Llanidloes – Dydd Iau 6ed Tachwedd, 12:30–14:30, Canolfan Gelfyddydau Minerva, 2 Stryd Fawr, SY18 6BY (Sgwrs Gymunedol yn unig, dim Ffair Gymunedol)

Y Gelli Gandryll – Dydd Mercher 12fed Tachwedd, 10:00–13:00, Clwb Bowlio, Heol Aberhonddu, HR3 5DY

Aberhonddu – Dydd Iau 13eg Tachwedd, 10:00–13:00, Ysgubor Brynich, LD3 7SH

Rhaeadr – Dydd Mawrth 18fed Tachwedd, 10:00–13:00, Canolfan Hamdden Rhaeadr, Stryd y Gogledd, LD6 5BU

Llandrindod – Dydd Iau 20fed Tachwedd, 10:00–13:00, Swyddfeydd PAVO, Uned 30, 
Ystâd Ddiwydiannol Heol Ddole, LD1 6DF

Llanandras – Dydd Sadwrn 22ain Tachwedd, 10:00–13:00, Neuadd Goffa Llanandras, Heol yr Orsaf, LD8 2DU

Ystradgynlais – Dydd Mercher 26ain Tachwedd, 10:00–13:00, Neuadd Les, Heol Aberhonddu, SA9 1JJ

Y Drenewydd – Dydd Iau 27ain Tachwedd, 10:00–13:00, Clwb Pêl-droed Y Drenewydd, Lôn y Parc, SY16 1EN

Trefaldwyn – Dydd Mawrth 2il Rhagfyr, 10:00–13:00, Neuadd y Dref, Trefaldwyn, Stryd Broad, SY15 6PH

Llanfair Caereinion – Dydd Mercher 3ydd Rhagfyr, 10:00–13:00, Yr Institiwt Llanfair, Stryd y Bont, SY21 0RY

Tref-y-clawdd – Dydd Iau 4ydd Rhagfyr, 10:00–13:00, Canolfan Gymunedol Tref-y-clawdd, Bowling Green Lane, LD7 1DR

Y Trallwng – Dydd Iau 4ydd Rhagfyr, 10:00–13:00, COWSHACC, Lôn Oldford, SY21 7TE

Llanfair-ym-Muallt – Dydd Llun 8fed Ragfyr, 12:30 – 14:30, TIC Building, Y Groe, LD2 3BL (Sgwrs Gymunedol yn unig, dim Ffair Gymunedol)

Machynlleth – Dydd Mercher 10fed Rhagfyr, 10:00–13:00, Y Plas, Tir Y Plas, Stryd Pentrerhedyn, SY20 8ER

Llanfyllin – Dydd Iau 11eg Rhagfyr, 10:00–13:00, Yr Institiwt, Stryd Fawr, SY22 5AA

Gweler ein calendr digwyddiadau am fwy o fanylion: https://www.pavo.org.uk/cy/events/

Gwahoddir pawb ym Mhowys i ymuno yn y sgwrs – boed trwy fynychu digwyddiad lleol neu lenwi arolwg byr ar-lein am fywyd yn y sir.

Byddai’n wych eich gweld chi mewn un o’r digwyddiadau. Nid oes angen archebu, ond os hoffech roi gwybod eich bod yn dod, anfonwch e-bost i: community.conversations@pavo.org.uk

Hoffai eich sefydliad gael lle yn un o’r digwyddiadau? Anfonwch e-bost atom yn: community.conversations@pavo.org.uk a byddwn yn anfon ffurflen archebu atoch.

Mae’r digwyddiadau hyn yn rhan o raglen Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.