Cynllun grant dan arweiniad pobl ifanc yn grymuso pobl ifanc ym Mhowys

Mae pobl ifanc ledled Powys yn cymryd yr awenau wrth lunio eu cymunedau drwy gynllun grant dan arweiniad pobl ifanc, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a reolir gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO).

Agorwyd ceisiadau ar gyfer y grant ym Mehefin 2025, gyda 17 cais wedi’u cyflwyno – pob un wedi’i ysgrifennu gan bobl ifanc 14 i 25 oed – gan ofyn am gyfanswm o £23,960.

Yn dilyn proses ddethol gystadleuol, dyfarnwyd grantiau i bum prosiect sy’n cefnogi gwirfoddoli, gan rannu cyfanswm y gronfa o £6,550.

Gwnaethpwyd yr holl benderfyniadau ariannu gan banel o bedwar person ifanc, hefyd rhwng 14 a 25 oed, gan sicrhau bod lleisiau pobl ifanc wrth wraidd y broses gyfan.

Y prosiectau llwyddiannus yw:

Builth Pottery HWB / MOCA Cymru Social Enterprise – £1,500
Bydd yr arian yn cefnogi gweithdai crochenwaith creadigol a therapiwtig i bobl ifanc yng nghefn gwlad Canol Powys. Bydd gwaith y cyfranogwyr yn cael ei arddangos mewn arddangosfa gyhoeddus yn dathlu gwytnwch, treftadaeth, a gobaith ar gyfer y dyfodol.

Hay Theatre CIC – £1,400
Bydd y prosiect hwn yn galluogi pobl ifanc i gael profiad ymarferol mewn dylunio gwisgoedd a setiau, props, rolau technegol, a gweithdai creadigol gyda Chaffi Dementia HayDay i gefnogi cynhyrchiad Hay Senior Youth Theatre o Towards Zero gan Agatha Christie.

The Re-gen Union Project (rhan o The Blackthorne Trust) – £1,495.77
Bydd pobl ifanc yn dysgu sgiliau ymarferol mewn compostio, hau, gofalu am anifeiliaid ac iechyd pridd wrth dyfu bwyd ar eu cyfer eu hunain, banciau bwyd lleol, a’u cymunedau. Bydd arddangosfa addysgol yn rhannu eu gwaith ac yn hyrwyddo cynaliadwyedd mewn ysgolion lleol a chlybiau ieuenctid.

Rekindle Youth Film Collective – £1,420.40
Bydd yr arian yn helpu i sefydlu clwb ffilm ieuenctid sy’n gyfeillgar i bobl niwroamrywiol yn y Drenewydd, gan gynnig dangosiadau hygyrch ac ymlaciedig. Bydd y cyfranogwyr yn datblygu sgiliau mewn cynllunio, cynnal a chynhyrchu prosiectau creadigol fel zines neu ffilmiau byrion, gyda chyfleoedd i gydweithio â sinemâu lleol ac ehangu gweithgareddau’r clwb.

Dyfi Valley Explorers – £733.83
Bydd y grant yn cefnogi trawsnewid hen drêlar tractor yn gwt bugail gan ddefnyddio technegau adeiladu traddodiadol a chelf gwydr lliw. Bydd y cwt yn darparu llety dros nos hygyrch ar wersyll sgowtiaid lleol ar gyfer pobl ifanc ag anghenion ychwanegol a gwirfoddolwyr oedolion.

Dywedodd Clair Swales, Prif Weithredwr PAVO:
“Mae’r fenter dan arweiniad pobl ifanc hon yn dangos yr effaith bwerus y gall pobl ifanc ei chael wrth yrru prosiectau gwirfoddoli sy’n cefnogi creadigrwydd, cynaliadwyedd, cynhwysiant, cysylltiadau rhwng cenedlaethau a datblygiad cymunedol ledled Powys.

“Mae diffyg gweithgareddau i blant a phobl ifanc, ynghyd â’r perygl y bydd pobl ifanc yn gadael yr ardal, yn bryder cynyddol yn y sir. Mae’r fenter hon yn dangos beth sy’n bosibl pan fyddwn yn gwrando ar bobl ifanc ac yn gweithio gyda nhw ar brosiectau y maent yn dymuno eu gweld yn eu cymunedau.”