Montgomeryshire Family Crisis Centre – Trustee Vacancies

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth?
Ymunwch â bwrdd Canolfan Argyfwng Teuluol Sir Drefaldwyn (MFCC) i helpu i lunio dyfodol ein helusen cam-drin domestig ddynamig.
Mae MFCC yn cynnig cymorth i unrhyw un sy’n profi neu’n cael ei effeithio gan gam-drin domestig yng Ngogledd Powys. Drwy ddod yn ymddiriedolwr, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth arwain cyfeiriad strategol a llywodraethiant ein helusen, gan ein helpu i ehangu ein heffaith i gefnogi a diogelu ein cymuned leol yn well.
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol fel ymddiriedolwr, rydym yn chwilio am unigolion sydd â’r sgiliau, yr wybodaeth neu’r arbenigedd a fydd yn gwella llywodraethiant y sefydliad ymhellach. Rydym yn awyddus i amrywio ein bwrdd, gan groesawu ymddiriedolwyr iau ac unigolion sydd â phrofiad personol.
Ni chaiff ymddiriedolwyr eu talu ond caiff yr holl dreuliau cysylltiedig eu had-dalu. Mae hwn yn gyfle gwych i wella eich sgiliau eich hun wrth gyfrannu at ein twf. Rydym yn cynnig sesiwn gynefino a chymorth parhaus.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Ysgrifennydd ein Cwmni ar 01686 629114 neu anfonwch e-bost at hr@familycrisis.co.uk