Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant heb eu hawlio

Cafodd y Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU yn 2005. Agorwyd cyfrifon ar gyfer bron 6 miliwn o blant a anwyd yn y DU rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011. Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi swm atodol i rai o’r cronfeydd hyn. Ac mae bron hanner nifer y Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant yng Nghymru heb eu hawlio o hyd.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg yn awyddus inni wneud popeth o fewn ein gallu i hyrwyddo gwybodaeth am y Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant i bobl ifanc yng Nghymru, er mwyn iddynt allu cael yr arian sy’n ddyledus iddynt.

Nid yw bron hanner nifer y bobl ifanc sydd bellach yn gymwys (18 +) i gael eu cynilion wedi gwneud hynny eto, ac nid yw llawer yn ymwybodol bod ganddynt gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Gall unrhyw un sy’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 14 a 22 oed eu helpu i ddod o hyd i’r sefydliad ariannol sy’n dal eu cyfrif a chael rhagor o wybodaeth yma: https://www.llyw.cymru/dod-o-hyd-ich-cronfa-ymddiriedolaeth-plant