Cynllun Grant Diwylliant ar gyfer Sefydliadau Llawr Gwlad

Rydym yn falch i gyhoeddi fod y Cynllun Grant Diwylliant ar gyfer Sefydliadau Llawr Gwlad ar agor tan 5.00yh Dydd Llun, 15fed Awst 2025.
Bydd y rownd newydd yma o grantiau gwerth £174,000 o gyllid refeniw a £60,000 o gyllid cyfalaf yn galluogi Grwpiau Llawr Gwlad neu Grwpiau sy’n cael eu rhedeg gan neu ar gyfer:
  • Pobl o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys pobl o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
  • Pobl o’r gymuned LHDTC+ yng Nghymru.
  • Pobl gydag anabledd yng Nghymru.
I ddarparu prosiectau 6 mis rhwng Hydref 2025 – Mawrth 2026 sy’n adlewyrchu amrywiaeth cymunedau Cymru drwy weithgareddau celf a diwylliant.
Mae yna fwy or wybodaeth arlein: Cyllun Grantiau Diwylliant Llywodraeth Cymru ar gyfer Sefydliadau Llawr Gwlad – Adferiad Recovery Cymru
A bydd Gweithdy Grantiau ar ddydd Mawrth, 26ain Awst am 11.00am ar Microsoft Teams, yn cynnwys cyflwyniad a sesiwn cwestiwn ac ateb, cliciwch yma i fynychu’r sesiwn: Sesiwn Gwybodaeth Grantiau Diwylliant
Mae’r Cynllun Grant hwn yn rhan o waith Llywodraeth Cymru ar gynllunio a strategaeth cydraddoldeb, yn benodol y:
  • Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
  • Cynllun Gweithredu LHDTC+ i Gymru
  • Cynllun Hawliau Pobl Anabl: 2025-2035
Cysylltwch a ni trwy’r ebost culturegrants@adferiad.org