Sesiwn Gyngor Rhithiol i Rieni a Gofalwyr gan Niwrowahaniaeth Cymru

Awtistiaeth a Glaniadwyr
Melissa Hutchings, ASD Family Help
Dydd Iau, 18fed o Fedi 2025,
10.00am – 12:00pm
Efallai y bydd gan unigolyn awtistig yn ei arddegau lawer o gwestiynau i’w gofyn wrth iddynt fynd yn hŷn, o ran sut y gall awtistiaeth effeithio arnynt. O bosibl y byddant hyd yn oed yn ei chael hi’n anodd derbyn eu hanghenion neu eu diagnosis. Fel rhiant/ gofalwr, efallai y bydd gennych chithau hefyd gwestiynau i’w gofyn – Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar fod yn Unigolyn Awtistig yn ei arddegau a pha mor bwysig yw caniatáu iddynt fod yn nhw eu hunain, a’ch bod chithau wrth eu hochr yn eu cefnogi ar hyd eu siwrnai gyda sgiliau bywyd a pherthnasoedd. Bydd y sesiwn yn rhoi sylw i ffrindiau, perthnasoedd, hunaniaeth rhywedd, y byd detio a chadw’n ddiogel.
Mae Cymorth i Deuluoedd ASD yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth trwy ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer teuluoedd ac unigolion sydd wedi’u heffeithio gan Awtistiaeth a/neu Anawsterau/Anableddau Dysgu (cyn ac ar ôl asesiad).
Mae gan Melissa fab awtistig, a dyna’r rheswm y daeth yn rhan o’r byd awtistiaeth. Bu’n gweithio i Awdurdod Lleol am 17 mlynedd fel arbenigwr awtistiaeth yn cefnogi a grymuso nifer o deuluoedd.
I archebu lle defnyddiwch y ddolen hon:
(Sylwer: mae’r sesiwn hon i rieni a gofalwyr yn unig)