Cyflwyniad i Ymdrin â Materion Hunanladdiad a Hunan-niwed mewn Plant a Phobl Ifanc

Yn berthnasol i bawb sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Amcanion Dysgu
Ar ôl y cwrs hwn, bydd dysgwyr yn gallu;
- Cydnabod yr hyn sy’n gyfystyr â hunan-niweidio
- Cydnabod y gwahaniaethau rhwng ymddygiad hunanladdol a hunan-niweidio a chysylltiadau posibl rhwng y ddau
- Disgrifio’r ffactorau risg ar gyfer hunanladdiad a hunan-niwed ymhlith plant a phobl ifanc
- Disgrifio ymatebion defnyddiol wrth ddelio â hunan-niweidio neu ymddygiad hunanladdiad plentyn neu berson ifanc
- Dangos sgiliau gwrando gweithredol
- Dangos hyder wrth reoli datgeliadau a chymryd y camau priodol nesaf
Neil Bovingdon a Gail Morris o CAMHS fydd yn darparu hyfforddiant.
Mae 24 o leoedd ar gael a fydd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.
Dydd Gwener 10 Hydref 2025
10.00 – 4.00
Gorsaf Dan Llandrindod
Darperir te a choffi.
Dewch â’ch cinio eich hun.
Ar gyfer ymholiadau neu i gadw lle e-bostiwch rachel.williams2@powys.gov.uk