Cronfa Gymunedol Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian 2026

Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn agor Cronfa Gymunedol y Cambrian.
Mae'n rhaglen grantiau bach sy'n cynnig gwobrau rhwng £200 a £1,000 i grwpiau.
lleol o fewn chwe milltir i orsaf reilffordd y Cambrian. Bydd yn cynnig cymorth
ariannol ar gyfer prosiectau sy'n gwella mannau sy'n cael eu defnyddio gan y
gymuned, yn hybu llesiant, yn cryfhau ymdeimlad o berthyn ac yn cyfrannu at
ddatblygiad o fewn y gymuned.
CYMHWYSEDD
Rhaid i sefydliadau sy'n gwneud cais am y grant fodloni'r canlynol:
● Rhaid bod yn sefydliad cymunedol, elusen, CIC neu’n grŵp sydd â chyfrif banc
yn enw'r sefydliad sy'n gwneud y cais, gyda dau lofnodwr annibynnol
● Wedi'u lleoli o fewn 6 milltir (10 km) i orsaf ar Reilffordd y Cambrian. Nid oes
angen 'r gweithgareddau gael eu cynnal yn yr orsaf ei hun.
● Yn cael eu harwain gan gymunedau lleol neu’n dangos budd clir i gymunedau
lleol.
● Bod yn hygyrch ac yn gynhwysol i'r buddiolwyr targed.
● Darparu budd clir a mesuradwy i'r gymuned leol neu i lesiant y gymuned.
● Bod yn realistig, gyda llinell amser a chyllideb glir.
● Sicrhau unrhyw ganiatâd gan dirfeddiannwr neu gytundebau partneriaeth sydd eu hangen cyn i'r gwaith ddechrau.
MEINI PRAWF
Rydym yn croesawu prosiectau dan arweiniad y gymuned sy'n dod â phobl ynghyd, yn gwella mannau lleol ac yn hybu llesiant y gymuned leol. Mae'r gronfa'n cefnogi ystod eang o weithgareddau, o erddi cymunedol a digwyddiadau pontio’r cenedlaethau, i welliannau o ran hygyrchedd a digwyddiadau undydd sy'n ymwneud â'r celfyddydau neu dreftadaeth. Dylai prosiectau ganolbwyntio ar y gymuned, fod yn gynhwysol, a darparu budd clir i’r ardal leol. Bydd croeso hefyd i brosiectau sy'n gysylltiedig â rheilffyrdd.
Bwriad yr enghreifftiau canlynol yw sbarduno syniadau. Rydym yn croesawu
prosiectau eraill sy'n cynnig manteision i’r ardal leol, yn cefnogi llesiant ac yn
cryfhau cysylltiadau o fewn y gymuned:
● Prosiectau Gwyrdd - gerddi cymunedol, mannau gwyrdd neu brosiectau tyfu.
● Prosiectau Gwella - pecyn casglu sbwriel a thrwsio meinciau, ymgyrchoedd
glanhau cymunedol
● Mynd i’r afael â Newid Hinsawdd / Cynaliadwyedd - pecyn cychwynnol compostio cymunedol, caffi trwsio dros dro, diwrnod cyfnewid cymunedol
● Teithio’n lleol, cerdded a beicio - Adnewyddu arwyddion ffordd, map o deithiau cerdded lleol, cynllun cyfaill cerdded, sesiwn meithrin hyder ar feic
● Ymdeimlad o berthyn - prosiectau gwau, byrddau stori am chwedlau lleol, cwilt cymunedol, pecyn croeso Quilt Station, (taflen, map, hanes lleol, lleoedd i
ymweld â nhw)
● Grwpiau Targed Pobl Ifanc / Hŷn - sesiynau garddio pontio’r cenedlaethau,
prosiect hel atgofion, a diwrnod crefft pontio’r cenedlaethau
● Cymorth i Ganolfannau Cymunedol - pecyn caffi dros dro, pecyn cychwynnol ar hygyrchedd
● Cynhwysiant a Hygyrchedd - mapiau cyffyrddadwy, neu fyrddau
gwybodaeth/taflenni mewn print bras.
● Celf, Cymuned neu Dreftadaeth - gosodiadau neu fyrddau dehongli tu mewn ac o amgylch gorsafoedd, artist am ddiwrnod, a blwch i fenthyg gwrthrychau
treftadaeth
● Hanes a Dehongli – Arddangosfeydd am hanes y rheilffyrdd, sgyrsiau am
dreftadaeth gorsafoedd a byrddau dehongli lleol.

Ar gyfer prosiectau sy'n cael eu hariannu, rhaid gwario'r holl gyllid erbyn diwedd Chwefror 2027. Rhaid hefyd gwblhau a chyflwyno adroddiad diwedd prosiect erbyn dydd Llun 6 Ebrill 2027.
Os hoffech drafod eich syniadau prosiect, cysylltwch â:
Deb Justice - Swyddog Datblygu Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
deb.justice@pavo.org.uk 01597 822191
Os oes angen cymorth arnoch i lenwi eich ffurflen gais, cysylltwch â'ch Cyngor
Gwirfoddol Sirol lleol:
Mantell Gwynedd 01286 672626 mantellgwynedd.com
CAVO 01570 423232 cavo.org.uk
Community Resource 01743 360641 community-resource.org.uk
PAVO 01597 822191 pavo.org.uk

 

Ffurflen gais

Copy of Copy of cambrian-stacked

LOGOS_ALL_IN_ONE