Versus Arthritis Online Info Session – Young people & Families Team

SESIWN WYBODAETH: Thîm Pobl Ifanc a Theuluoedd Cymru Versus Arthritis
Dydd Iau – Mehefin 19 2025
Ar-lein dros Teams 11.30 yb – 12.30 yp.
Ymunwch â Thîm Pobl Ifanc a Theuluoedd Cymru Versus Arthritis i ddysgu mwy am lywio’r byd fel person ifanc ag Arthritis. Byddwn yn rhannu rhai ffyrdd ymarferol o gefnogi person ifanc, rhai o’r pethau allweddol y mae pobl ifanc eisiau i’r byd eu gwybod am fyw gydag arthritis, a rhywfaint o’r cymorth a’r adnoddau am ddim sydd ar gael i bobl ifanc 0-25 oed a’u teuluoedd.
Bydd cyfle i ofyn cwestiynau ac i rannu awgrymiadau eich hun. Mae croeso mawr i bawb!
Cofrestrwch ar Eventbrite.
Ystafell yn agor am 11.20yb, mae’r cyflwyniad yn dechrau am 11.30yb. Byddwch ar amser.
Mae ein sesiynau gwybodaeth ar-lein ar gyfer oedolion ag arthritis, cyflyrau cyhyrysgerbydol neu gyflyrau cysylltiedig e.e. ffibromyalgia, lwpws, cymalwst. Hefyd ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gofalwyr sy’n cefnogi pobl sy’n byw gydag arthritis. Maent yn cynnig cyfle i ddysgu am reoli arthritis a chyflyrau cysylltiedig, clywed gan siaradwyr gwadd a dysgu mwy am y cymorth a ddarperir gan Versus Arthritis mewn ardaloedd lleol.