Ymunwch â Chymunedau Digidol Cymru

Ymunwch â Chymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles ar gyfer ein gweminarau rhad ac am ddim sydd ar ddod ym mis Mehefin:

AP GIG Cymru: Helpu Eraill i fod Ar-Lein – 16 Mehefin 2025 | 10:00-11:30

Mae hon yn sesiwn hyfforddi i aelodau staff a gwirfoddolwyr i gefnogi pobl i ymwneud ag Ap GIG Cymru. Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i ymgyfarwyddo â rhai o brif nodweddion Ap GIG Cymru ac yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am helpu pobl i fynd ar-lein am y tro cyntaf a defnyddio’r ap.

Cofrestrwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/1256532415279?aff=oddtdtcreator

Sut y mae Offer Digidol yn gallu Cefnogi Pobl gyda’u Costau Byw – 18 Mehefin 2025 | 14:00-15:30

Bydd y sesiwn yma yn cael ei gynnal yn y Gymraeg. Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyngor a gwybodaeth ymarferol i chi am gefnogi aelodau o’ch cymuned i ddeall yr offer digidol sydd ar gael i arbed arian ar-lein.

Cofrestrwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/gweminar-dcw-sut-mae-offer-digidol-yn-gallu-cefnogi-pobl-gydau-costau-byw-tickets-1280939337039?aff=oddtdtcreator

Cynhwysiant digidol ac ariannol a manteision rheoli arian ar-lein – 25 Mehefin 2025 | 10:00-11:30

Mae’r sesiwn hon yn cael ei chyflwyno mewn cydweithrediad â’r gwasanaeth Arian a Phensiynau. Mae’n ymwneud â helpu pobl i reoli eu harian ar-lein a bydd yn rhoi trosolwg o offer Arweinwyr Arian, yn ogystal â’r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi pobl i fynd ar-lein a chael mynediad atynt.

Cofrestrwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/digital-and-financial-inclusion-and-the-benefits-of-managing-money-online-tickets-1297040385709?aff=oddtdtcreator

Mae rhagor o’n gweminarau sgiliau digidol rhad ac am ddim sydd ar ddod i’w gweld yma:
https://www.digitalcommunities.gov.wales/cy/rhaglen-gweminar/