Sesiynau Ar-lein Gofalwyr Cymru: Amser i Fi

Rydyn ni’n falch o rannu ein calendr o sesiynau hyfforddi, lles a gwybodaeth ar-lein (am ddim) sydd ar ddod. Mae pob un sesiwn wedi’i hanelu’n benodol at ofalwyr di-dâl.

Mae’r sesiynau hyn yn rhad ac am ddim i gymryd rhan ynddyn nhw, a bydden ni’n ddiolchgar pe gallech chi rannu’r posteri dwyieithog sydd ynghlwm gydag unrhyw ofalwyr yn eich rhwydweithiau a thrwy eich sianeli cyfathrebu.

Am fanylion llawn ac i fwcio lle, ewch i’n gwefan: Gofalwyr Cymru: Sesiynau Amser i Fi