Wythnos y Gwirfoddolwyr

Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ŵyl wirfoddoli flynyddol ledled y DU a gynhelir rhwng 1af a'r 7fed o  Fehefin bob blwyddyn. Mae’r wythnos arbennig hon yn amser pan fo pob mudiad sy’n cynnwys gwirfoddolwyr yn cael eu hannog i ddweud diolch enfawr i’w gwirfoddolwyr.

csm_Volunteers-week-logo-padded_ba4129a528

Rhannwch eich Stori Gwirfoddoli!

Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ymwneud â rhannu straeon gwirfoddoli – gan dynnu sylw at y pethau anhygoel y mae gwirfoddolwyr yn eu gwneud. Byddem wrth ein bodd yn clywed straeon gan wirfoddolwyr ledled Powys y byddwn yn eu rhannu yn ein cylchlythyrau ac ar gyfryngau cymdeithasol.

Gallwch anfon stori gwirfoddoli atom drwy e-bostio: volunteering@pavo.org.uk

Fel arall, gallwch lawrlwytho'r ffurflen yma a'i e-bostio yn ôl i volunteering@pavo.org.uk