Cronfa Datblygu Fforwm Gwerth Cymdeithasol 2024-2025

Nod y Gronfa Datblygu Gwerth Cymdeithasol yw ariannu gwasanaethau a gweithgareddau ataliol sector gwerth cymdeithasol newydd neu amlwg.

Mae'n rhaid i'r rhain fodoli eisoes a llenwi a phontio bylchau yn y ddarpariaeth bresennol i wella llesiant meddyliol a chorfforol. Maent yn helpu unigolion i fyw bywyd annibynnol ac yn anelu at leihau yr angen am ymyrraeth lefel uwch, tra'n sicrhau aliniad â Strategaeth Iechyd a Gofal Powys. Mae'r cyllid ar gael gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys drwy'r Fforwm Gwerth Cymdeithasol.

Rhaid i bob ymgeisydd ymgysylltu â’r cymorth sydd ar gael gan Swyddog Datblygu’r gronfa cyn cyflwyno cais.

  • Cyfanswm gwerth y gronfa yw £150,000; nid oes unrhyw derfynau wedi'u gosod ar y swm y gellir gwneud cais amdano gan bydd y panel yn gwneud penderfyniadau ar sail y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael.
  • Mae'r gronfa ar gael i gefnogi costau refeniw yn unig.
  • Mae'r ffenestr ymgeisio yn agor ar 27ain o Chwefror 2024. Y dyddiad cau yw 1yp dydd Iau 4ydd o Ebrill 2024.
  • Mae’r gronfa yn darparu cyllid cychwynnol ar gyfer gwasanaeth newydd neu estynedig, felly mae angen i geisiadau ddangos yn glir sut y bydd y gwasanaeth/gweithgaredd yn parhau ar ôl y 31ain o Fawrth 2025.
  • Bydd pob ymgeisydd, boed yn llwyddiannus neu ddim, â'r cyfle i dderbyn cefnogaeth gan Swyddog Datblygu PAVO.

Bydd penderfyniadau ariannu'n cael eu gwneud gan banel grantiau aml-asiantaeth yn seiliedig ar y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael, ansawdd y ceisiadau wedi'u cwblhau a lefel ymgysylltiad ymgeiswyr â'r cymorth datblygu a ddarperir gan y gronfa.

Bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus weithio gyda swyddog datblygu'r Gymraeg PAVO 'y Cynnig Rhagweithiol' ynghylch integreiddio'r Gymraeg yn eu gweithgareddau.

Blaenoriaethau'r Gronfa

  • Teithio er lles
  • Gwella lles a chysylltiadau cymunedol
  • Cefnogaeth i'r bregus
  • Bwyta'n well, gwario llai

Mae cymorth ar gael gan swyddog datblygu’r Gronfa i’ch helpu i nodi sut y gall eich cynnig prosiect fynd i’r afael â’r blaenoriaethau hyn.

Mae’n hanfodol bod pob darpar ymgeisydd yn ymgysylltu’n llawn â’r cymorth sydd ar gael gan y swyddog datblygu sydd yno i’ch helpu i ddatblygu syniadau cychwynnol am brosiectau ac i fod yn ffrind beirniadol wrth ddatblygu'ch cais. Ni fydd y cymorth hwnnw’n gwarantu cais llwyddiannus. Mae dyfarnu grantiau yn broses gystadleuol a disgwyliwn i’r arian sydd ar gael fod wedi’i ordanysgrifio – ond bydd yn help i sicrhau bod eich cais y gorau y gall fod.

Os ydych wedi derbyn dolen i’r ffurflen gais hon o unrhyw ffynhonnell heblaw swyddog y Gronfa, rhaid i chi gysylltu â’r swyddog hwnnw i drafod y prosiect arfaethedig a manteisio ar y cymorth rhad ac am ddim sydd ar gael. Bydd methu â gwneud hynny yn golygu na fydd eich cais yn gymwys i gael ei hystyried gan banel grantiau’r Gronfa.

I fod yn gymwys am gyllid, rhaid i’ch sefydliad gael ei gategoreiddio o dan sefydliadau/grwpiau Sector Gwerth Cymdeithasol fel y’i diffinnir yn adran 16 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 h.y. Mentrau Cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, gwasanaethau a arweinir gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector, gyda chyfansoddiad/set o reolau a chyfrif banc. Os nad ydych yn sefydliad cyfansoddiadol, mae’n annhebygol y byddwch yn gallu gwneud cais am arian, ond cysylltwch â swyddog y Gronfa i drafod opsiynau, oherwydd efallai y byddwn yn gallu eich helpu i ddod o hyd i sefydliad arall yn lleol y gallwch weithio gydag ef i gyflwyno cais.

Rhaid lleoli pob prosiect ym Mhowys. Lle mae gan brosiectau fuddiolwyr y tu allan i'r sir, dim ond cyfran fach o'r rhai y mae'r prosiect yn eu cyrraedd / yn ymgysylltu â nhw y gall y buddiolwyr hynny fod.

Rhaid i brosiectau arfaethedig gyfrannu at Strategaeth Iechyd a Gofal Powys. Gellir dod o hyd i fanylion am hyn yma.

Rhaid i brosiectau fod naill ai'n weithgaredd newydd (nad yw'n cael ei ddyblygu yn unman arall yn eich maes budd) neu'n estyniad clir o weithgaredd sy'n bodoli eisoes. NI ELLIR defnyddio'r gronfa ar gyfer cyllid parhaol.

Diffiniad o ‘estyniad clir’ - rhaid dangos ei bod yn amlwg nad yw gweithgaredd yr ydych chi, neu sefydliad arall yn ei gynnig ar hyn o bryd, ar gael i fuddiolwyr eich prosiect arfaethedig. e.e. rydych yn darparu caffi ieuenctid yn y Drenewydd ar hyn o bryd, ni fyddai cynnig noson ychwanegol yn bodloni’r meini prawf hyn, tra byddai cynnig caffi ieuenctid ychwanegol mewn ardal wahanol yn gwneud hynny.

I gael ffurflen gais bydd angen i chi drefnu cyfarfod byr gyda'r Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol i drafod eich prosiect. Gallwch wneud hyn drwy e-bostio grants@pavo.org.uk neu ffonio 01597 822191

Social Value Forum Development Fund graphic with criteria and priorities.