Hwyluswyr Hybu Iechyd

Mae'n Hwyluswyr Hybu Iechyd yn cefnogi Cydweithfeydd Iechyd Sylfaenol yng Nghanolbarth a Gogledd Powys, trwy rannu negeseuon hybu iechyd a chyfathrebu rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol a defnyddwyr gwasanaeth ar lefel leol.

csm_disability_2_2d55fe34dc

Ffocws

Mae’r prosiect Hwylusydd Hybu Iechyd yn canolbwyntio ar:

  • Cadw'n iach
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau hybu iechyd
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o wasanaethau gwirfoddol a thrydydd sector

Ymrwymiad

Mae'n Hwyluswyr Hybu Iechyd yn ymgysylltu â chymunedau drwy

  • Bresenoldeb mewn digwyddiadau cymunedol
  • Bwyntiau gwybodaeth mewn cymorthfeydd
  • Wybodaeth yn cael ei lledaenu trwy gyfryngau cymdeithasol

Canlyniadau

Trwy waith yr Hwyluswyr Hybu Iechyd rydym yn anelu at

  • Ymgysylltu â phobl leol
  • Darparu gwybodaeth a chyngor hybu iechyd
  • Arwain ar ymgyrchoedd iechyd y cyhoedd
  • Cefnogi ymwybyddiaeth sgrinio
  • Hyrwyddo cymunedau sy'n deall dementia
  • Gwella neu greu byrddau gwybodaeth mewn cymorthfeydd a chymunedau
  • Darparu gweithgareddau hybu iechyd yn y gymuned
  • Targedu cymunedau anodd eu cyrraedd

Cwrdd â'r Tîm

Dewch i gwrdd â Gareth Ratcliffe, ein Hwylusydd Hybu Iechyd ar gyfer Canolbarth Powys.

Gareth Ratcliffe - Health Promotion Facilitator Mid Powys

 

Dewch i gwrdd â Chris Roberts, ein Hwylusydd Hybu Iechyd ar gyfer Gogledd Powys.

Chris Roberts - Health Promotion Facilitator North Powys

I gael gwybod mwy am y rolau cysylltwch

gareth.ratcliffe@pavo.org.uk

chris.roberts@pavo.org.uk