Rhwydwaith Ymddiriedolwyr

Os ydych yn ymddiriedolwr elusen, neu gyfarwyddwr cwmni dielw neu aelod o bwyllgor rheoli, byddwch yn ymwybodol o’ch cyfrifoldebau o ran sicrhau dulliau llywodraethu da a chynaliadwyedd eich sefydliad.

Mae PAVO yn cefnogi rhwydwaith ar gyfer ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr ac aelodau pwyllgorau rheoli er mwyn rhannu gwybodaeth ac arbenigedd.

Mae’r Rhwydwaith Lleisiau Dibynadwy yn eich uno ar-lein.

csm_Newtork_5404443e84

Trwy aelodaeth ceir:

  • Fforwm ar-lein rhwydd ei ddefnyddio sy’n caniatáu ichi ofyn cwestiynau a nodi sylwadau ymhlith aelodau ar draws Powys - Lleisiau Dibynadwy
  • Lle ar y fforwm i hysbysu digwyddiadau i’r Rhwydwaith
  • Mynediad at y blog Lleisiau Dibynadwy sy’n cynnwys newyddion a sylwadau – a rhannu eich newyddion
  • E-fwletin rheolaidd bob deufis
  • Fideo Lleisiau Dibynadwy - proffil o’ch sefydliad a dweud wrth eraill pam rydych yn gwirfoddoli fel ymddiriedolwr, sut rydych yn elwa o’r profiad a rhannu cyngor. Perffaith ar gyfer denu darpar ymddiriedolwyr newydd i’ch gwaith.
  • Digwyddiadau a hyfforddiant ar gael ar draws y sector
  • Cynnig hanner pris ar gyfer hyfforddiant PAVO - Bod yn Ymddiriedolwr
  • Bathodyn Lleisiau Dibynadwy - er mwyn i ymddiriedolwyr eraill ym Mhowys eich adnabod.

Addewid Lleisiau Dibynadwy:

  1. Addo ymrwymo i ddulliau llywodraethu da - byddwch yn gweithio i wella eich sefydliad.
  2. Byddwch yn aelod gweithgar – byddwch yn ymuno ac yn rhannu eich profiadau gydag eraill.