Y Bartneriaeth Iechyd Meddwl

Is-bartneriaeth y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yw’r Bartneriaeth Iechyd Meddwl (a elwir hefyd yn ‘Bartneriaeth Cynllunio a Datblygu Iechyd Meddwl’).

csm_MH_Team_10cbb8d303

Swyddogaeth

Y Bartneriaeth Iechyd Meddwl sy’n gyfrifol am ddatblygu gwaith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol fel rhan o’r agenda ‘Byw’n Dda’ a amlinellir yn Strategaeth Iechyd a Gofal  Powys er mwyn atgyfnerthu a thrawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant, ond hefyd i sicrhau fod gwasanaethau’n datblygu er mwyn diwallu anghenion deddfwriaeth iechyd meddwl ehangach .

Mae’r Bartneriaeth yn cynnal nifer o is-grwpiau partneriaeth, yn benodol i ymgysylltu ag a gwrando ar leisiau defnyddwyr gwasanaethau a’u gofalwyr, a hefyd i ymgysylltu â darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl y Trydydd Sector. PAVO sy’n gyfrifol am gefnogi unigolion a sefydliadau i gyfrannu at y grwpiau hyn.

Aelodaeth

  • Cyngor Sir Powys
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • Tîm Iechyd Cyhoeddus Powys
  • PAVO
  • Cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr (mae PAVO yn eu cefnogi yn y rôl hon)

Cynrychiolaeth PAVO/Trydydd Sector:

Freda Lacey (Uwch Swyddog PAVO – Iechyd a Llesiant)

Owen Griffin (Swyddog Cyfranogiad Iechyd Meddwl PAVO); mae hefyd yn mynychu cyfarfodydd y Bartneriaeth er mwyn cefnogi cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ar y Bartneriaeth.

Amserlen cyfarfod: bob deufis.