Mae PAVO, o fewn trefniadau partneriaeth y sir, wedi sefydlu Tîm Ymateb Brys Sector Cymunedol (C-SERT).
Mae hyn yn cynnwys sefydliadau sirol sy'n cynnig cefnogaeth gwirfoddolwyr a gwasanaethau ymateb brys, ochr yn ochr â phartneriaid o Gyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Mae C-SERT wedi mabwysiadu dull triphlyg o gefnogi pobl a chymunedau:
1. Rhwydweithiau Cymorth Cymunedol
2. Gwirfoddolwyr Iechyd a Gofal COVID-19 Powys
3. Gwybodaeth ac Ymgysylltu â'r Sector Gwirfoddol COVID-19
Gellir gweld nodiadau o gyfarfodydd C-SERT trwy glicio ar y dolenni isod.
NODIADAU CYFARFOD C-CERT:
Mae C-SERT wedi datblygu canllawiau ar gyfer gwirfoddolwyr ar draws Powys.
Cliciwch isod i weld y canllawiau
Mae ein gwasanaeth Cysylltwyr Cymunedol (cliciwch yma am fanylion) yn cefnogi ac yn cydgysylltu tri ar ddeg o rwydweithiau cymorth cymunedol ar draws Powys.
Mae'r rhwydweithiau hyn yn ceisio dwyn ynghyd y nifer fawr o fentrau gwirfoddol anffurfiol a ffurfiol sy'n gweithredu i helpu pobl i gadw'n ddiogel ac yn iach.
Os hoffech chi gymryd rhan yn eich cymuned i helpu pobl, neu os ydych chi'n gwybod am unrhyw sydd angen help, cysylltwch â'r Cysylltwyr Cymunedol.
Gellir cysylltu â'n Cysylltwyr Cymunedol ar 01597 828649 neu drwy e-bostio community.connectors(at)pavo.org.uk
GWIRFODDOLWYR IECHYD A GOFAL COVID-19
Rydym yn recriwtio gwirfoddolwyr i helpu gwasanaethau iechyd a gofal statudol yn ystod y cyfnod hwn. Byddwch chi’n
gallu dewis ym mha ardal neu gymuned yr hoffech chi gwirfoddoli.
Mae yna nifer o gyfleoedd gwirfoddoli y gallwch chi eu dewis, gan gynnwys un cyffredinol sydd yn ceisio paru eich profiad, eich gwybodaeth a'ch sgiliau â'r cyfle iawn i chi gyda’r Bwrdd Iechyd.
Cliciwch yma i weld cyfleoedd Gwirfoddoli Iechyd a Gofal COVID-19 Powys ar wefan Gwirfoddoli Cymru.
Cofrestrwch i ymuno â chyfle os hoffech chi ein helpu ni i helpu eraill yn y cyfnod anodd hwn.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am wirfoddoli neu help i gofrestru fel gwirfoddolwr, os gwelwch yn dda e-bostiwch volunteering(at)pavo.org.uk
Gwirfoddoli i sefydliadau
Mae llawer o grwpiau gwirfoddol yn recriwtio gwirfoddolwyr i helpu i ddarparu eu gwasanaethau pwysig yn ystod yr amseroedd heriol hyn.
Os hoffech gael unrhyw help i recriwtio, asesi, hyfforddi a gosod gwirfoddolwyr, cysylltwch â ni trwy e-bostio volunteering(at)pavo.org.uk
Mae yna nifer o fentrau sy'n cynnig help i grwpiau a sefydliadau gwirfoddol i ddarparu cefnogaeth a pharhau i fod yn hyfyw.
Cliciwch yma i gael crynodeb diweddaraf o'r help sydd ar gael.
Cliciwch isod i weld Bwletinau Sector Gwirfoddol COFID-19
Os gwelwch yn dda cliciwch yma i gofrestru ar gyfer ein bwletin wythnosol