Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) yn darparu gwasanaethau hanfodol er mwyn cefnogi sefydliadau trydydd sector ac i wella bywydau pobl.
Bod yn GATALYDD ar gyfer gweithredu cymunedol trwy alluogi arloesi, cefnogi gwirfoddolwyr a helpu sefydliadau Trydydd Sector i redeg mewn ffordd effeithiol, cyflenwi gwasanaethau o ansawdd a bod yn gynaliadwy er mwyn:
Bod yn LLAIS ar ran mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol er mwyn cyfleu barn a dylanwadu ar lunio polisïau, cynllunio gwasanaethau i sicrhau y caiff barn a phrofiadau unigolion a chymunedau eu clywed a'u deall gan unigolion sy'n gwneud penderfyniadau er mwyn:
Bod yn GANOLBWYNT gwybodaeth hanfodol ac adnoddau ar gyfer sefydliadau Trydydd Sector, er mwyn:
Sicrhau taw SEFYDLIAD yw sy’n addas i’w bwrpas, ac yn y sefyllfa gorau posib i:-
Mae PAVO'n ymroddedig i wrando ar ein gilydd, wrth gydweithio i sicrhau canlyniadau buddiol i’r naill a’r llall. Byddwn yn gwrando ar bobl ac yn dysgu ganddynt er mwyn trawsnewid ein sefydliad drwy gwybodaeth, gallu a mentergarwch ein gweithlu, partneriaid a phawb arall.
Mae PAVO'n ymroddedig i fod yn ddidwyll, yn onest ac yn rhydd rhag twyll. Byddwn yn sicrhau cysondeb ac uniondeb yn ein hymddygiad.
Mae PAVO'n ymroddedig i gyrraedd y safonau uchaf posibl a darparu'r ansawdd gorau posibl ym mhopeth a wnawn.
Mae PAVO'n ymroddedig i groesawu amrywiaeth fel ffynhonnell gyfoethogi. Byddwn yn trin pawb yn deg, a gwneud popeth o fewn ein gallu i alluogi cyfle cyfartal i bawb.
Mae PAVO'n ymroddedig i werthfawrogi pob person a sefydliad ac i roi sylw dyledus i'w temiladau, hawliau a dymuniadau. Byddwn yn ymddwyn gyda charedigrwydd a thosturi ym mhopeth a wnawn.